Newyddion

Wythnos Cyflog Byw yw Dathliad Blynyddol y Mudiad Cyflog Byw!

Bydd Wythnos Cyflog Byw bach yn wahanol eleni. Does dim modd inni gwrdd ein gilydd a theimlo’r disgwyliad yn yr ystafell i glywed y gyfradd newydd. Nid yn gorfforol. Fodd bynnag, rydyn ni’n mynd i ail-greu’r rhannau gorau o ddigwyddiadau Wythnos Cyflog Byw ond ar-lein!

DIGWYDDIADAU CYMRU

Dydd Llun 9fed o Dachwedd 8:30yb – Lansiad Wythnos Cyflog Byw Cymru

Digwyddiad ar-lein a fydd yn lansio Wythnos Cyflog Byw yng Nghymru gyda’r Prif Weinidog yn cyhoeddi’r gyfradd newydd a dathliadau o straeon lwyddiant y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at ymgyrch 2020-21.

Dydd Llun 9fed o Dachwedd 2:00yp – Wythnos Cyflog Byw Gorllewin Cymru gyda Burns Pet Nutrition

Mae Burns Pet Nutrition yn gwahodd cyflogwyr Gorllewin Cymru i ymuno a nhw i arddangos pencampwyr y Cyflog Byw a chysylltu â’r rhai sydd yn gweithio i’r un agenda yn y rhanbarth. 

Dydd Llun 9fed o Dachwedd 2:00yp- Wythnos Cyflog Byw Gogledd Cymru gyda DEG

Mae Deg yn eich gwahodd i ddigwyddiad sydd yn anelu at gryfhau’r rhwydwaith cyflogwyr yng Ngogledd Cymru a darparu’r cyfle i drafod uchelgeisiau am y rhanbarth. 

Dydd Iau 12fed o Dachwedd 10:00 – 11:55yb-  Fforwm Cynnal Cymru a CLlLC Awdurdodau Lleol – Achrediad Cyflog Byw a Lleoedd Cyflog Byw

Digwyddiad rhwng CLlLC a Chynnal Cymru fel rhan o Wythnos Cyflog Byw i ddod â Phenaethiaid Caffael o awdurdodau lleol er mwyn trafod gwerth achrediad Cyflog Byw, buddion o ddod yn lle Cyflog Byw a’r cyfle i gael  trafodaeth â ffocws
ar y rhwystrau i achrediad a darparu cefnogaeth wedi’i theilwra. 

Dydd Iau 12fed o Dachwedd 13:00 – 15:00yp – Bord Gron Gwaith Teg

Trafodaeth gaedig cadeiriwyd gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, i ddod â Llywodraeth Cymru, llywodraethau lleol, undebau llafur a’r sectorau preifat a gwirfoddol at ei gilydd i archwilio’r greadigaeth o gynllun gweithredu sy’n gydweithredol ac integreiddiol ar gyfer cyflymu cynnydd ar waith teg yng Nghymru.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am Wythnos Cyflog Byw yng Nghymru neu hoffech chi fynychu cysylltwch â bethan@cynnalcymru.com

#WythnosCyflogByw

#LivingWageWeek #Wales

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n arwain y ffordd drwy ymuno â chynllun y Living Wage Foundation ar gyfer arianwyr elusennau

Mae’r cynllun yn cydnabod arianwyr sy’n ymrwymo i gefnogi elusennau trwy ariannu swyddi ar Gyflog Byw neu’n uwch.

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth fel Ariannwr Cyflog Byw yn y DU gan y Living Wage Foundation.

Fel rhan o’i ymrwymiad i fod yn Ariannwr Cyflog Byw, mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n cefnogi elusennau sy’n ymrwymo i dalu Cyflog Byw i staff ar ôl llwyddo i ennill grant.

Mae Arianwyr Cyflog Byw eu hunain yn Gyflogwyr Cyflog Byw ac yna, ble bynnag bo’n bosibl, maen nhw’n annog derbynwyr grantiau i ddod yn gyflogwyr achrededig yn y man.

Mae Arianwyr Cyflog Byw yn gweithio gyda’i gilydd i gael gwared ar gyflogau isel yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol.

Er bod miloedd o elusennau ac arianwyr eisoes wedi cofleidio Cyflog Byw ar draws y DU, mae cyflogau isel yn aros yn broblem enfawr ar draws y sector. Mae’r cynllun Ariannwr Cyflog Byw yn cael ei ariannu gan People’s Health Trust ac wedi’i ddatblygu ar y cyd gan lawer o wahanol arianwyr gan gynnwys Trust for London, Barrow Cadbury, y Joseph Rowntree Foundation a Comic Relief.

Yr isafswm cyflog ar gyfer rhai 25 oed a throsodd yn y DU ar hyn o bryd yw £8.72 yr awr, ond mae’r Cyflog Byw, cyfradd wirfoddol sy’n cael ei gosod yn annibynnol ac sy’n cael ei gyfrifo yn unol â chostau byw sylfaenol yn y DU, yn sylweddol uwch ar £9.50, gan godi i £10.85 yn Llundain.

Meddai Laura Gardiner, Cyfarwyddwr, y Living Wage Foundation:

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cydnabod Sefydliad Cymunedol Cymru fel Ariannwr Cyflog Byw. Mae’r fath arweinyddiaeth yn dangos ymrwymiad i daclo’r problemau difrifol sy’n codi yn ein cymunedau oherwydd cyflogau isel.

“Mae llawer o sefydliadau yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol yn gweithio’n galed i daclo anghyfiawnder cymdeithasol a thlodi ac felly, mae ond yn iawn fod y rhai sydd wedi ymrwymo i’r swyddi hynny yn derbyn, o leiaf, Gyflog Byw. Rydyn ni’n gobeithio gweld llawer mwy o arianwyr a chwmnïau’n dilyn arweiniad Sefydliad Cymunedol Cymru ac Arianwyr Cyflog Byw eraill.

“Ar adeg pan mae hanner y rhai mewn tlodi’n byw mewn cartrefi ble mae gan rywun swydd, mae teuluoedd ledled y DU wirioneddol angen Cyflog Byw. Mae’r Cyflog Byw yn gyfrifiad cadarn sy’n adlewyrchu’r costau byw heddiw, yn gwobrwyo diwrnod caled o waith gyda chyflog teg am y diwrnod hwnnw.”

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rydyn ni’n yn credu ei bod hi’n bwysicach nawr nag erioed o’r blaen ein bod ni’n sicrhau fod y sefydliadau rydym yn eu hariannu’n talu Cyflog Byw i’w holl weithwyr yn hytrach na’r isafswm cyflog.

Mae’r Cyflog Byw yn rhoi cymaint o hwb i’r economi ac fe wyddom y bydd yn arwain at well iechyd a llesiant ac at gymunedau cryfach.

Hynny sydd wedi gyrru’n penderfyniad ac rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein bod ni, erbyn hyn, yn Ariannwr Cyflog Byw.”

Meddai John Hume, Prif Weithredwr, People’s Health Trust:

“Mae’r People’s Health Trust yn falch o groesawu Sefydliad Cymunedol Cymru fel yr ariannwr elusennau diweddaraf i ymuno â rhwydwaith Ariannwr Cyflog Byw. Drwy ddod yn rhan o’r cynllun hwn, sy’n tyfu’n gyflym iawn, mae wedi dangos ymrwymiad, fel ariannwr, i weithio i gael gwared ar gyflogau isel yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol.

“Rydym eisiau gweld y Cyflog Byw yn dod yn norm, ac rydyn ni o’r farn fod sefydliadau ariannu yn gallu arwain y ffordd i wireddu hyn yn y sector gwirfoddol.”

Lansio ymgyrch i anfon 50,000 leisiau o Gymru i’r COP26

Mae Climate Cymru, clymblaid o ddinasyddion, cymdeithas sifil a busnes ar draws Cymru yn lansio ymgyrch i ddod â 50,000 o leisiau ynghyd o bobl Cymru i fynd i Glasgow ym mis Tachwedd.

Bydd cefnogwyr ar draws y wlad yn cael eu grymuso i ychwanegu eu llais at wefan Climate Cymru, i fynnu gweithredu cryf ac ystyrlon gan arweinwyr newid hinsawdd. Ar ôl ychwanegu eu llais, bydd cefnogwyr wedyn yn gallu creu eu neges bersonol eu hunain, fydd yn mynd i gyfarfod COP26 eleni yn Glasgow, ac i’w rhannu ymysg eu rhwydweithiau eu hunain.

Mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn bygwth cymunedau Cymru, eu ffyrdd o fyw, a’r byd naturiol. Mae’n digwydd nawr, ac mae llawer eisoes yn ei weld yn eu bywydau bob dydd. Mae llifogydd difrifol, oedd ar un adeg yn ddigwyddiad prin, bellach yn ddigwyddiad blynyddol mewn llawer o gymunedau yng Nghymru. Bydd newid hinsawdd ond yn gwaethygu hyn.

Mae arweinwyr y byd yn cyfarfod yn Glasgow ym mis Tachwedd ac mae Climate Cymru yn galw arnynt i wneud ymrwymiadau cryf ac ystyrlon i ddiogelu’r pethau sydd yn annwyl i ni ac i greu dyfodol gwell i bawb.

Mae Climate Cymru yn casglu lleisiau ar draws Cymru, lleisiau sydd yn poeni’n fawr am Gymru, ei phobl, ei hamgylchedd naturiol, ond hefyd, yn hollbwysig, am y byd y tu hwnt i’w ffiniau. Mae’r ymgyrch yn galw ar bobl o bob cefndir i ddatblygu mudiad amrywiol ar draws
ffiniau gwleidyddol, diwylliannol, crefyddol, demograffig a sectoraidd.

Gan ddefnyddio llesiau Cymru, nod yr ymgyrch yw rhoi’r pwyslais ar lywodraethau ac arweinwyr gwleidyddol i ddangos arweinyddiaeth ac i sicrhau bod ymdrechion unigolion a busnesau’n cael eu cefnogi gan bolisïau effeithiol.

Wrth gynnal COP26, mae’n arbennig o bwysig i Lywodraeth y DU ddangos arweinyddiaeth ryngwladol i bwyso am ymrwymiadau cryf ac ystyrlon gan y gymuned ryngwladol i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Ymunwch â’r ymgyrch. Ychwanegwch eich llais yn climate.cymru.

Dywedodd Poppy Stowell-Evans, aelod o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru a
Llysgennad Climate Cymru:

“Fel sefydliad o bobl ifanc sy’n ymgyrchu dros y newid yn yr hinsawdd, rydym yn cydnabod y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau yn rhyngwladol ac yng Nghymru. Mae’n rhaid, felly, ei gymryd o ddifrif fel mater byd-eang.

Rydyn ni’n recriwtio Swyddog Gweinyddol

Cyflog: £20-24,000 pro rata, 15 awr, gweithio’n hyblyg
Contract: 6 mis tymor penodol (gyda phosibilrwydd o estyniad)
Lleoliad: Cymru/swyddfa: Caerdydd*
Dyddiad cau: Dydd Sul 21ain o Fawrth 2021 (canol nos)

Cynnal Cymru yw’r sefydliad Datblygiad Cynaliadwy arweiniol yng Nghymru.

Rydyn ni’n gweithio gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru a thu hwnt, adnabod cyfleoedd i hyrwyddo dull integredig am greu cymdeithas deg a chyfiawn, economi carbon isel ac amgylchedd naturiol llewyrchus.

Mae ein tîm bach yn darparu ar waith eang sy’n cyffwrdd ag agendau niferus gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio, teithio cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, tai fforddiadwy, yr economi sylfaenol, tlodi mewn Gwaith, rheoli adnoddau naturiol a llawer mwy.

Rydyn ni’n bartneriaid swyddogol yng Nghymru am achrediad Cyflog Byw a’r Prosiect Carbon Literacy.

Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Gweinyddol profiadol er mwyn cefnogi’r tîm gyda materion gweinyddol a hwyluso achrediad cyflog byw yng Nghymru.

Ymgeisiwch

Lawrlwytho Disgrifiad Y Swydd a Manyleb Person
Lawrlwytho’r Ffurflen Cais
Lawrlwytho’r Ffurflen cyfleodd cyfartal

Anfonwch eich llythyr eglurhaol, ffurflen cais a’r ffurflen cyfleoedd cyfartal i jobs@cynnalcymru.com

Am fwy o wybodaeth am y rôl, plîs cysylltwch â Lynsey Jackson, Cyfarwyddwr Rhaglen ar 02920 431713

*Noder os gwelwch yn dda ein bod ni’n gweithio o gartref ar hyn o bryd ond gobeithio dychwelyd i swyddfa yn rheolaidd

Rhowch eich barn i Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent

What should we do in Blaenau Gwent to tackle the climate crisis in a way that is fair and improves living standards for everyone?

To gather this information we are using a website called Polis – a real-time system for gathering, analysing and understanding what large groups of people think in their own words.

Anybody who lives or works in Blaenau Gwent can take part in the Polis survey and all responses are anonymous. The survey is opening on Monday 1st March 2021 and closing on Monday 22nd March 2021.

Find out more >>

Gwneud y pethau bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi

Eleni, ar Ddydd Gŵyl Dewi, ‘rydym yn gofyn i sefydliadau ar draws Cymru ystyried y pethau bychain y gallant wneud i sicrhau nad oes rhaid i unrhywun yng Nghymru weithio am lai na’r Cyflog Byw go iawn, boed hynny’n cynnwys deall sut mae bod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, ceisio annog sefydliadau eraill i ystyried y Cyflog Byw go iawn neu ein helpu ni i rannu negeseuon cadarnhaol am y gwahaniaeth y mae talu’r Cyflog Byw go iawn yn gallu’i wneud.

Y Cyflog Byw go iawn yw’r unig raddfa gyflog yn y DU a delir, yn wirfoddol, gan 7,000 o fusnesau sy’n credu bod eu staff yn haeddu ennill cyflog sy’n cwrdd â’u hanghenion beunyddiol – megis y siopa wythnosol, neu ymweliad annisgwyl at y deintydd. Yng Nghymru, mae 278 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig, a dros 11,428 o gyflogai Cymru wedi derbyn codiad cyflog oherwydd bod eu cyflogwyr wedi’u hachredu. Ar lefel y DU, mae’r Cyflog Byw go iawn yn cael cefnogaeth trawsbleidiol.

Er gwaetha’r heriau aruthrol a welwyd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, ‘rydym yn dal i weld momentwm parhaus o gwmpas y Cyflog Byw Go Iawn yng Nghymru. Yn 2020, roedd 55 cyflogwr ar draws holl sectorau a diwydiannau Cymru wedi cymryd y cam o achredu fel cyflogwyr Cyflog Byw, (o gymharu â 56 yn 2019). Drwy weithredu yn unigol, roedd y cyflogwyr hyn wedi codi cyfanswm o 4,300 o weithwyr i lefel Cyflog Byw go iawn.

Yn ȏl y TUC, mae bron chwarter o holl weithwyr Cymru yn derbyn tâl sy’n is na’r Cyflog Byw go iawn. Mewn ambell i etholaeth yng Nghymru mae’r ffigwr yn 1 o bob 3.

Yn ȏl y ddogfen ganlynol ddiweddar, sef y Joseph Rowntree Foundation Briefing, darganfuwyd bod 4 o bob 10 aelwyd sy’n wynebu tlodi yng Nghymru yn cynnwys gweithiwr llawn-amser ac, yn aml, mae dros hanner o’r aelwydydd yma yn cynnwys aelod sy’n gweithio; mae hyn yn dangos yn glir tra bod cyflogaeth yn lleihau’r risg o dlodi, yn aml nid yw’n ddigonol i alluogi’r unigolyn i ddianc rhagddo.
Mae talu’r Cyflog Byw go iawn yn cynnig llwybr i bobl ddianc o dlodi, ac yn golygu bod ganddynt mwy o arian i’w wario yn eu heconomïau lleol, ac ar y pethau hynny sydd o bwys iddynt.

Felly, wrth i ni ddechrau cynllunio’n ffordd allan o COVID, a sicrhau ein bod yn fwy gwydn yn y dyfodol, ‘rydym yn annog pob cyflogwr i ystyried pa bethau bychain y gallant wneud er mwyn gwella’r sefyllfa. Pa gam cadarnhaol gallwch chi gymryd heddiw? Mae dod yn gyflogwr Cyflog Byw go iawn yn gam bach sy’n gallu golygu newidiadau mawr i’ch gweithwyr, eich sefydliad a’ch cymuned.

Cynnal Cymru yw corff achredu’r Cyflog Byw go iawn yng Nghymru ac ‘rydym yma i’ch helpu chi drwy’r broses achredu. Cysylltwch â ni, ymunwch â’r mudiad, gwnewch y pethau bychain.

Dymunwn Ddydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. Diolch yn fawr!

Mae’r holl ffigyrau yn seiliedig ar y data a oedd ar gael ar Chwefror 1 2021.

Gwneud y pethau bychain yng Nghaerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

Eleni, ar Ddydd Gŵyl Dewi, ‘rydym yn gofyn i sefydliadau ar draws Caerdydd ystyried y pethau bychain y gallant wneud i sicrhau nad oes rhaid i unrhywun yng Nghymru weithio am lai na’r Cyflog Byw go iawn, boed hynny’n cynnwys deall sut mae bod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, ceisio annog sefydliadau eraill i ystyried y Cyflog Byw go iawn neu ein helpu ni i rannu negeseuon cadarnhaol am y gwahaniaeth y mae talu’r Cyflog Byw go iawn yn gallu’i wneud.

Cyngor Caerdydd yw’r unig gyngor achrededig fel Cyflogwr Cyflog Byw yng Nghymru. Mae’r cyngor a phartneriaid yn hyrwyddo Caerdydd fel Dinas Gyflog Byw sy’n cael effaith cadarnhaol ar y Ddinas a’i gweithwyr. O Chwefror 1af 2021 ymlaen, mae 45% o gyflogwyr achrededig yng Nghymru yn dod o Gaerdydd ac mae cyflogwyr Caerdydd wedi cyfrannu at 69% o godiadau cyflog oherwydd achrediad. Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerdydd wedi dangos bod 124 cyflogwr yn achredu yng Nghaerdydd wedi arwain at 7,735 o weithwyr yn derbyn codiad cyflog sy wedi ychwanegu dros £32m at yr economi lleol o fewn 8 mlynedd.

Er mwyn clywed mwy am fuddion achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw gwyliwch ar y fideo.

Dyma oedd gan y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd i’w ddweud:

“Mae’r pethau hynny sy’n ymddangos yn rhai bychain wir yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr, a dw i’n deall yr effaith sylweddol y mae talu’r Cyflog Byw go iawn wedi cael ar fywydau ein staff ni. ‘Rydym yn falch i gefnogi sefydliadau ar draws y ddinas, i’w galluogi i wneud yr un peth ar ran eu cyflogai hwythau ac, ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, byddwn yn annog unrhyw fusnes sydd â diddordeb mewn talu’r Cyflog Byw go iawn i gysylltu â ni, a dysgu mwy am y cynllun”.


Mae Cyngor Caerdydd yn deall bod y buddion ehangach o’r Cyflog Byw go iawn yn gallu fod o fudd i unigolion a chyflogwyr yn ychwanegol a’r ddinas ac maen nhw wedi gwneud ymrwymiad i ad-dalu ffioedd i fusnesau bach a chanolig yng Nghaerdydd trwy’i chynllun cefnogaeth achrediad.

Am fwy o wybodaeth ar y Cyflog Byw yng Nghaerdydd ewch at y wefan.

Hefyd, mae cyngor Caerdydd yn annog cyflogwyr lleol i ddarparu cynlluniau cynilo a benthyciadau cyflogres, yn galluogi eu gweithwyr i arbed arian yn uniongyrchol o’u cyflogau ac os oes angen cynnig credyd fforddiadwy oddi wrth ddarparwr moesegol. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Cardiff and Vale Credit Union.

Cynnal Cymru yw corff achredu’r Cyflog Byw go iawn yng Nghymru ac ‘rydym yma i’ch helpu chi drwy’r broses achredu. Cysylltwch â ni, ymunwch â’r mudiad, gwnewch y pethau bychain.

Dymunwn Ddydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. Diolch yn fawr!

Scroll to Top