Heb gategori

Economi Deg

Economi Deg

Cynnal Cymru yw prif elusen datblygu cynaliadwy Cymru, a’n nod yw galluogi gweithredu tuag at gymdeithas deg a chyfiawn, economi carbon isel ac amgylchedd naturiol ffyniannus.

Mae ein hamcanion elusennol yn cynnwys lliniaru tlodi a gwella amodau bywyd y rhai sydd o dan anfantais gymdeithasol ac economaidd, a hyrwyddo dulliau cynaliadwy o sicrhau twf economaidd ac adfywio.

Mae ein tîm Economi Deg yn gweithio ar brosiectau sy’n cyfrannu at y nodau hyn.

Creu economi sy’n gweithio i bawb

Rydym yn gwneud gwaith i greu cymdeithas ac economi sy’n decach ac yn fwy cyfiawn i Gymru: gan anelu at leihau tlodi a hyrwyddo adfywio economaidd cynaliadwy.

Mae ein blaenoriaethau presennol yn cynnwys lledaenu Gwaith Teg a Chyflog Byw ledled Cymru (sy’n gysylltiedig ag 8fed Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig) a chefnogi Economi Sylfaenol Cymru.

DSCF3006

Cyflog Byw Cymru

Ni yw Partner Achredu’r Sefydliad Cyflog Byw yng Nghymru. 
Mae hynny’n golygu ein bod yn cynnal Cyflog Byw Cymru yn fewnol yn Cynnal Cymru. 
Mae ein staff Cyflog Byw yn dadlau o blaid y Cyflog Byw gwirioneddol ledled Cymru, gan gefnogi cyflogwyr i ennill achrediad Cyflog Byw, Oriau Byw, neu Bensiynau Byw gyda gwasanaeth ‘dal llaw’. 

Mae ein hachrediadau wedi arwain yn uniongyrchol at godiadau cyflog i filoedd o bobl ledled Cymru. 
Mae’r Cyflog Byw yn rhan allweddol o agenda Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, ac rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru yn ein gwaith. 
Rydym hefyd yn gweithio i gefnogi nodau eraill yr agenda Gwaith Teg.

Yr Economi Sylfaenol

Yr Economi Sylfaenol yw’r rhan o’n heconomi sy’n hanfodol i’n bywydau – fel gofal iechyd, gofal plant, trafnidiaeth a chyfleustodau. Mae pwysigrwydd y rhan hon o’r economi yn aml wedi cael ei anwybyddu gan wneuthurwyr polisi ac weithiau mae’n cael ei galw’n ‘economi bob dydd’. 

Mae Cynnal Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i drefnu Rhwydwaith Galluoedd yr Economi Sylfaenol (FECN), ac i ddarparu cymorth i gryfhau Economi Sylfaenol Cymru. 

Gallwch ddysgu mwy am gysyniad yr Economi Sylfaenol a sut mae Cynnal Cymru yn ei gefnogi.

Lady writing on paper during a workshop

Ymgynghoriaeth

Mae Cynnal Cymru yn gweithio ar brosiectau tymor byr eraill sy'n gysylltiedig â'n hamcanion elusennol yn y gofod Economi Deg. 

Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys ymchwil ar sut i fynd i’r afael â chyflogau isel mewn sectorau blaenoriaeth, hyfforddi cynrychiolwyr undebau llafur ar sut i fanteisio ar ddeddfwriaeth newydd i greu canlyniadau gwell i’w haelodau, a phrosiectau eraill sy’n cyfrannu at gymdeithas deg a chyfiawn a gweithredu tuag at leihau tlodi. 

Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn weithio gyda’n gilydd.

Y Newyddion a’r Digwyddiadau Diweddaraf

Cysylltu â ni

training@cynnalcymru.com

029 2043 1746

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Mae ein cylchlythyr misol yn cynnwys crynodeb o’r newyddion cynaliadwyedd diweddaraf yn ogystal â diweddariadau ar ein cyfleoedd hyfforddi diweddaraf.

Economi Deg Read More »

Fy nghyrsiau

Fy nghyrsiau

Dysgu ar-lein gan Cynnal Cymru - Sustain Wales

It seems you haven’t signed up for any courses. Check out our courses here. Or

Cyrsiau eraill y gallech fod â diddordeb ynddynt

Fy nghyrsiau Read More »

Systemau Rheoli Amgylcheddol – Canllaw i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru

Systemau Rheoli Amgylcheddol – Canllaw i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru

Defnyddio trydan a dŵr, cynhyrchu gwastraff, gweithredu peiriannau a phrosesu deunyddiau naturiol – dyma rai o’r ffyrdd mae busnesau’n rhyngweithio â’r amgylchedd ar lefel weithredol a thrwy eu cadwyni cyflenwi.  

Mae busnesau o bob maint yn sylweddoli bod angen deall, rheoli a gwella eu heffeithiau amgylcheddol i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu a thyfu’n gynaliadwy. Mae System Reoli Amgylcheddol sy’n cyd-fynd â maint a gweithgareddau’r sefydliad yn fframwaith allweddol i helpu busnesau i wneud hyn. 

Fodd bynnag, gall fod yn fwy heriol i fusnesau bach a chanolig fesur, rheoli ac adrodd ar nodau hinsawdd ac amgylcheddol oherwydd cyfyngiadau amser, cost ac adnoddau dynol. Felly beth yw’r opsiynau? Oes angen i chi gydymffurfio ag ISO 14001 sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol neu oes dewisiadau eraill ar gael? 

Gobeithio y bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall (i) prif elfennau System Reoli Amgylcheddol, (ii) y manteision a’r cyfleoedd maen nhw’n eu cynnig i fusnesau bach a chanolig ac (iii) yn rhoi trosolwg o’r gwahanol safonau ardystio ar gyfer gweithredu System Reoli Amgylcheddol a chefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru. 

Cofiwch, mae llawer o fanteision i gael ardystiad System Reoli Amgylcheddol, ond y daith at gael yr ardystiad sy’n cyfrif o ran camau gweithredu ymarferol ac allbynnau. Bydd angen adnoddau ar gyfer pob ardystiad. Os nad yw hyn yn bosibl yn eich sefydliad ar hyn o bryd, gobeithio y bydd y canllaw hwn yn dal yn werthfawr i’ch arwain at gamau gweithredu ystyrlon.    

1. Beth yw System Reoli Amgylcheddol?

Mae System Reoli Amgylcheddol yn fframwaith strwythuredig o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion sy’n helpu sefydliadau i asesu, rheoli a gwella eu heffaith amgylcheddol.  

Prif nodau System Reoli Amgylcheddol yw sicrhau bod sefydliadau’n gwneud y canlynol: 

  • Cydymffurfio â gofynion amgylcheddol (er enghraifft, dan drwydded amgylcheddol a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru) 
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon 
  • Lleihau gwastraff a sicrhau ychydig iawn o lygredd 
  • Gwella perfformiad amgylcheddol yn barhaus 

(gweler: https://www.iso.org/climate-change/environmental-management-system-ems)  

Un o gryfderau craidd unrhyw System Reoli Amgylcheddol yw galluogi gwelliant parhaus mewn perfformiad amgylcheddol. Mae gwelliant parhaus fel y’i diffinnir yn ISO 14001 yn cyfeirio at weithgareddau sy’n cael eu gwneud dro ar ôl tro i wella perfformiad amgylcheddol. Er enghraifft, gall sefydliadau ganfod cyfleoedd i wella drwy archwiliadau a monitro cynnydd yn erbyn amcanion a thargedau.  

Ar gyfer busnes bach a chanolig, gallai hyn olygu gweithredu mentrau newid ymddygiad i gefnogi’r broses o leihau carbon a chyflwyno nodau sy’n ymwneud â natur, fel rhoi’r gorau i ddatgoedwigo. Fodd bynnag, o safbwynt ehangach, gallai gwelliant parhaus olygu rhoi sylw i nifer cynyddol o feysydd busnes neu brosesau mewn System Reoli Amgylcheddol, neu gasglu gwybodaeth a sgiliau i ddelio â materion amgylcheddol. Yn gyffredinol, mae’n ymwneud â symud o reoli’r amgylchedd yn weithredol i ddull gweithredu mwy strategol.

2. Manteision gweithredu System Reoli Amgylcheddol i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru

  • Rheoli a gwella effeithiau amgylcheddol: drwy integreiddio ystyriaethau amgylcheddol yn eu gweithrediadau, gall busnesau bach a chanolig leihau eu hôl troed ecolegol a lleihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. 
  • Rheoli Risg: Mae adnoddau System Reoli Amgylcheddol yn darparu dull systematig o nodi a rheoli risgiau amgylcheddol ac maent yn helpu busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnes ar gyfer y dyfodol ac osgoi rhwymedigaethau ac amhariadau posibl. 
  • Arbedion costau: Gall gweithredu arferion effeithlon ar gyfer rheoli adnoddau arwain at arbedion cost i fusnesau bach a chanolig. Drwy wneud y defnydd gorau posibl o ynni a dŵr, cynhyrchu llai o wastraff, a chyflwyno mentrau ailgylchu, gall busnesau bach a chanolig weld gostyngiadau mewn biliau cyfleustodau a manteision ariannol eraill o brosesau mwy effeithlon ac arloesol. 
  • Cydymffurfio â rheoliadau: Mae System Reoli Amgylcheddol yn helpu busnesau bach a chanolig i gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol a gofynion cyfreithiol. Drwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth amgylcheddol, gall busnesau bach a chanolig osgoi cosbau a phroblemau cyfreithiol. 
  • Gwella mynediad at gyllid: Gall System Reoli Amgylcheddol helpu busnesau bach a chanolig i nodi a rheoli camau y gallant eu cymryd i gyflawni gofynion o dan Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru. Gall hefyd fod yn gatalydd ar gyfer ariannu arloesedd, er enghraifft, Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd gan Fanc Datblygu Cymru. 

3. Safonau ac Ardystiadau System Reoli Amgylcheddol

Wrth ddechrau creu System Reoli Amgylcheddol, mae nifer o safonau ar gael i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Dyma’r prif rai sy’n cael sylw yn y canllaw hwn: 

  • ISO 14001:2015 (Systemau Rheoli Amgylcheddol – Gofynion a Chanllawiau Defnyddio)  

Dyma’r safon wirfoddol a ddefnyddir fwyaf ledled y byd ar gyfer System Reoli Amgylcheddol. Mae’n darparu fframwaith cyfannol ‘sy’n cwmpasu pob agwedd ar ddulliau sefydliad o reoli’r amgylchedd ac mae’n cynnig adnoddau ar gyfer gwelliant parhaus’. Mae ardystiad ar gael i sefydliadau sydd wedi gweithredu gofynion ISO 14001.  

  • ISO 14005:2019 (Systemau Rheoli Amgylcheddol – Canllawiau ar gyfer dull hyblyg o weithredu fesul cam) 

Mae’r safon hon yn cynnwys canllawiau ar gyfer dull fesul cam o sefydlu, gweithredu, cynnal a gwella System Reoli Amgylcheddol. Gall fod yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau bach a chanolig gan ei bod yn rhoi hyblygrwydd ac yn caniatáu i sefydliadau ddatblygu eu Systemau Rheoli Amgylcheddol ar eu cyflymder eu hunain. Bydd gweithredu’r canllawiau’n llawn yn arwain at System Reoli Amgylcheddol sy’n cyd-fynd ag ISO14001.  

Sylwch fod safon awgrymiadol gynharach BSI ar gyfer busnesau bach a chanolig, sef BS8555, a oedd hefyd yn darparu dull fesul cam o weithredu System Reoli Amgylcheddol, wedi cael ei thynnu’n ôl a’i disodli gan ISO 14005.  

Mae’r Ddraig Werdd yn achrediad amgylcheddol yn y DU a ddyfernir i ‘fusnesau sy’n cymryd camau i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd’. Mae’n gweithredu system fesul cam dros bum lefel, gan ganiatáu i fusnes symud ymlaen yn ei amser ei hun.  Mae safon Lefel 5 y Ddraig Werdd yn cyfateb i ISO 14001.  Un o fanteision y Ddraig Werdd yw ei gydnabyddiaeth a’i gefnogaeth gan Busnes Cymru a’i gydnabyddiaeth ym mhrosesau caffael Llywodraeth Cymru. 

Mae’r Goriad Gwyrdd yn eco-achrediad a ddyfernir i fusnesau sy’n gweithredu yn y sector twristiaeth. Mae busnesau sydd wedi’u hardystio gan y Goriad Gwyrdd yn bodloni set o ofynion amgylcheddol o safon uchel ar draws 13 maes gan gynnwys rheoli’r amgylchedd, cynnwys staff, arbed ynni a dŵr, rheoli gwastraff, a bwyd a diod. Yng Nghymru, mae’r Goriad Gwyrdd yn cael ei weithredu gan Cadwch Gymru’n Daclus ar ran y Sefydliad Addysg Amgylcheddol 

Mae’r Cynllun Eco-reoli ac Archwilio yn gynllun gwirfoddol gan yr UE sy’n berthnasol i bob mudiad yn y sector cyhoeddus sydd eisiau gwerthuso, rheoli a gwella eu perfformiad amgylcheddol. Mae’r Cynllun Eco-reoli ac Archwilio yn fwy eang a thrylwyr nag ISO 14001 (fel yr esbonnir isod) ond mae ISO 14001 yn bodloni gofynion y gydran System Reoli Amgylcheddol. Ar ôl Brexit, nid oes gan y DU ‘gorff cymwys’ sy’n gyfrifol am Gynlluniau Eco-Reoli ac Archwilio mwyach. Fodd bynnag, efallai y bydd mudiadau sy’n gwneud busnes yn yr UE yn teimlo bod Cofrestriad Byd-Eang y Cynllun Eco-reoli ac Archwilio yn ddefnyddiol ac rydym wedi cynnwys gwybodaeth am y prif ofynion a dolenni at ragor o wybodaeth yn y ddogfen hon er mwyn bod yn gyflawn. 

Mae’n werth nodi nad oes angen i fusnesau gadw at safon benodol ar gyfer eu System Reoli Amgylcheddol, ac efallai y byddant yn penderfynu dylunio system bwrpasol. Fodd bynnag, mae’n bosibl iawn y bydd defnyddio un o’r safonau sydd ar gael yn defnyddio llai o adnoddau a gall helpu i sicrhau system gadarn ar gyfer rheoli’r amgylchedd a fydd yn rhoi sicrwydd i randdeiliaid.  

Mae adrannau canlynol y canllaw hwn yn rhoi ychydig mwy o fanylion am y safonau uchod i’ch helpu i weld pa un allai fod y dull gweithredu cywir ar gyfer eich busnes.   

Sylwch mai canllaw yw hwn sy’n seiliedig ar grynodeb o’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein. Gwiriwch y dolenni gwe i gael y manylion mwyaf cywir a chyfredol. 

4. Safonau EMS rhyngwladol

ISO14001:2015 (Systemau Rheoli Amgylcheddol – Gofynion a Chanllawiau Defnyddio) 

Mae ISO 14001:2015 yn fframwaith cyfannol a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer System Reoli Amgylcheddol. Mae’n cwmpasu pob agwedd ar effaith amgylcheddol sefydliad ac yn cynnig adnoddau i wella’n barhaus.  

Beth mae’n ei gynnwys? 

Sail ISO 14001 (fel gyda safonau eraill System Reoli Amgylcheddol) yw proses y system reoli Cynllunio-Gwneud-Gwirio-Gweithredu (PDCA). Mae’r cylch PDCA yn cael ei gymhwyso i’r System Reoli Amgylcheddol yn gyffredinol, yn ogystal â phrosesau unigol, ac mae’n galluogi sefydliadau i wella eu perfformiad amgylcheddol yn barhaus drwy wella’r System Reoli Amgylcheddol. 

Mae’r Canllaw yn disgrifio’r gofynion ar gyfer sefydlu a gweithredu System Reoli Amgylcheddol, gan gynnwys: 

  1. Polisi amgylcheddol: Datganiad yn amlinellu ymrwymiad sefydliad i gynaliadwyedd amgylcheddol. 
  2. Cynllunio: Mae hyn yn cynnwys nodi agweddau ac amcanion amgylcheddol sefydliad, gosod targedau a sefydlu rhaglenni i’w cyflawni. 
  3. Gweithredu: Mae’r cam hwn yn cynnwys rhoi cynlluniau ar waith, dyrannu adnoddau a neilltuo cyfrifoldebau. 
  4. Gwirio: Mae mynd ati’n rheolaidd i fonitro perfformiad yn erbyn amcanion a thargedau yn hanfodol i sicrhau bod camau cywiro’n cael eu rhoi ar waith yn brydlon. 
  5. Adolygiad rheoli: Mae adolygiad ffurfiol o’r System Reoli Amgylcheddol yn cefnogi ei heffeithiolrwydd a’i haddasrwydd parhaus. 

Model Cynllunio-Gwneud-Gwirio-Gweithredu System Reoli Amgylcheddol (Ffynhonnell: Westcon,2017, ar-lein) 

Costau, Ardystiad a Hyfforddiant  

Gellir prynu’r safon o wefan ISO am oddeutu £130 a gall busnesau ddewis gweithredu’r safon heb gostau ardystio. Ceir hefyd amrywiaeth o fodiwlau hyfforddi am ddim sydd wedi’u hachredu gan IEMA i’ch helpu i’w rhoi ar waith. 

Fel y nodwyd uchod, mae cael ardystiad yn ddewisol ond gall roi sicrwydd i sefydliadau a’u cwsmeriaid bod ISO 14001 wedi cael ei rhoi ar waith yn gadarn.  

Mae costau ardystiad gan sefydliadau a achredir gan Wasanaeth Achredu’r DU (UKAS) yn amrywio ond mae’n hawdd cael dyfynbrisiau ar-lein heb ymrwymiad. 

Fel arfer, dyfernir ardystiad am dair blynedd, yn amodol ar ymweliadau goruchwylio blynyddol. Mae’r safon ei hun yn cael ei diwygio o bryd i’w gilydd (bob 5-10 mlynedd fel arfer).  

ISO 14005:2019 (Systemau Rheoli Amgylcheddol – Canllawiau ar gyfer dull hyblyg o weithredu fesul cam) 

Er bod ISO 14001 yn berthnasol i sefydliadau o bob math a maint, gallai gweithredu System Reoli Amgylcheddol yn llawn ar yr un pryd fod yn heriol i rai sefydliadau ac yn enwedig i fusnesau bach a chanolig lle mae amser, cost ac adnoddau dynol yn gallu bod yn gyfyngedig.  

Ar lefel ryngwladol, datblygwyd dull fesul cam o weithredu System Reoli Amgylcheddol (safon BSI BS8555:2016 gynt, sydd wedi’i disodli gan ISO 14005) i annog ac arwain busnesau bach a chanolig i fodloni gofynion ISO 14001. 

Beth mae’n ei gynnwys? 

Mae’r dull fesul cam yn ISO 14005 wedi’i lunio i roi hyblygrwydd i sefydliad ddatblygu ei System Reoli Amgylcheddol dros nifer o gamau er mwyn bodloni gofynion ISO 14001 yn y pen draw. 

Mae nifer y camau y mae sefydliad yn dewis eu cymryd ar unrhyw un adeg yn hyblyg a gellir eu pennu yn dibynnu ar adnoddau a blaenoriaethau. Mae pob cyfnod yn cael ei rannu’n chwe cham i’w cwblhau mewn trefn dros amser. Gall busnesau bach a chanolig fonitro cynnydd gan ddefnyddio’r matrics aeddfedrwydd yn Atodiad A ISO 14005 a’r dogfennau ategol am ddim a ddarperir gan ISO 14005. 

Mae’r Daflen Asesu (ar y dudalen dogfennau ategol) a ddarperir gan ISO yn adnodd defnyddiol sy’n galluogi sefydliadau i fonitro a chofnodi cynnydd drwy bum lefel o aeddfedrwydd sy’n cyfateb i bob is-gymal System Reoli Amgylcheddol. Mae System Reoli Amgylcheddol sy’n bodloni aeddfedrwydd Lefel 1 (Colofn 1) hyd at aeddfedrwydd llawn ar Lefel 5 (Colofn 5) yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer cymal penodol o ISO 14001:2015. 

Costau, Ardystiad a Hyfforddiant  

Gellir llwytho’r Canllaw i lawr oddi ar wefan ISO am oddeutu £130. Gan mai nod ISO 14005 yw helpu busnesau bach a chanolig i gyrraedd 14001, nid oes ardystiad ar wahân ar gyfer y safon hon. Fodd bynnag, mae’n syniad da troi ati i gael syniadau ac enghreifftiau ymarferol ar sut i weithredu ISO 14001 yn fwy effeithiol.

5. Safonau amgen System Reoli Amgylcheddol sy’n cael eu cydnabod yng Nghymru

Ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru, mae dewisiadau eraill yn lle’r safonau uchod sy’n cael eu gweinyddu gan sefydliadau cenedlaethol ac yn cael eu cydnabod gan y sector cyhoeddus yn y broses gaffael. 

5.1 Achrediad Amgylcheddol y Ddraig Werdd Groundwork

Mae Achrediad Amgylcheddol y Ddraig Werdd yn safon gynhwysfawr a weinyddir gan Groundwork, corff arolygu a achredir gan UKAS. Mae’n cael ei ddyfarnu i ‘fusnesau sy’n cymryd camau i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd’. 

Beth mae’n ei gynnwys? 

Yn debyg i ISO 14005, mae’r safon yn gweithredu ar system fesul cam (Lefel 1-5), sy’n caniatáu i sefydliadau ymuno ar unrhyw adeg a datblygu eu System Reoli Amgylcheddol yn eu hamser eu hunain. 

Dyma’r pum lefel: 

  • Lefel 1: Ymrwymiad i Reoli’r Amgylchedd 
  • Lefel 2: Deall cyfrifoldebau amgylcheddol 
  • Lefel 3: Rheoli effeithiau amgylcheddol 
  • Lefel 4: Rhaglen Rheoli’r Amgylchedd 
  • Lefel 5: Gwella’r amgylchedd yn barhaus 

Gall sefydliadau ddewis pa lefel sy’n briodol i natur a graddfa eu gweithgareddau ac ar ôl cwblhau pob lefel, byddant yn cael tystysgrif. Mae safon lefel 5 y Ddraig Werdd yn cyfateb i ISO 14001. 

Mae gan Groundwork nifer o ddogfennau defnyddiol ar ei wefan i gyd-fynd â’r safon, gan gynnwys Llyfr Gwaith Adolygiad Amgylcheddol. Mae hefyd restr o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi cael achrediad y Ddraig Werdd.   

Ardystio a chostau 

Er mwyn cyflawni a chynnal Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, mae angen archwiliad blynyddol gyda Groundwork. Mae cost yr archwiliad yn amrywio yn dibynnu ar y lefel, a Lefel 3 yw’r pwynt mynediad mwyaf cyffredin ar gyfer sefydliadau ac o ran cost.  

5.2 Goriad Gwyrdd – Safon cynaliadwyedd ar gyfer y sector twristiaeth

Mae’r Goriad Gwyrdd yn rhaglen ardystio amgylcheddol ryngwladol ar gyfer y diwydiant twristiaeth a lletygarwch. Mae wedi cael ei ddyfarnu i dros 3,200 o fusnesau o bob rhan o’r sector mewn 65 o wledydd ac mae’n agored i fusnesau o bob rhan o’r sector.  

Mae’r Goriad Gwyrdd yn cael ei weithredu ledled y byd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) sy’n gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i ardystio. Yng Nghymru, mae’r dystysgrif Goriad Gwyrdd yn cael ei rheoli gan Cadwch Gymru’n Daclus. 

Mae Goriad Gwyrdd yn hyrwyddo arferion cynaliadwy ac yn cydnabod busnesau sy’n bodloni meini prawf penodol yn ymwneud â rheoli’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Nodir y meini prawf dros 13 maes thematig gan gynnwys arbed ynni a dŵr, rheoli gwastraff, caffael cynaliadwy, ac addysg amgylcheddol. 

Mae’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol wedi datblygu meini prawf a nodiadau esboniadol ar gyfer busnesau mewn chwe chategori gwahanol (gwestai a chyrchfannau gwyliau, llety bach, gwersylloedd, bwytai, atyniadau a chanolfannau cynadledda).  

Ym mhob categori, ceir meini prawf ‘hanfodol’ ac ‘awgrymedig’. Er enghraifft, mae creu polisi cynaliadwyedd a rhyngweithio â rhanddeiliaid yn hanfodol, ond awgrym yw targed i leihau ôl troed carbon.  Rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais am dystysgrif Goriad Gwyrdd gyflawni’r holl feini prawf hanfodol ac yna, ar gyfer pob blwyddyn ddilynol y bydd yn gwneud cais, rhaid iddo fodloni 5% o’r meini prawf awgrymiadol.  

Yn ogystal â manteision cyffredinol gweithredu System Reoli Amgylcheddol, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn tynnu sylw at y ffaith bod teithwyr a thwristiaid yn fwyfwy awyddus i gefnogi busnesau cynaliadwy ac mae buddsoddi mewn ardystiad Goriad Gwyrdd yn ffactor allweddol sy’n gwahanu’r farchnad. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi casglu ynghyd astudiaethau achos o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi buddsoddi yn y Goriad Gwyrdd. 

Ardystio a chostau  

Mae tair rhan i’r broses ymgeisio am ardystiad: 

  • Anfon dogfennau’r cais 
  • Cael archwiliadau ar y safle 
  • Penderfyniad gan endid annibynnol (dilysiad trydydd parti) 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio yng Nghymru ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus. 

Nod Cadwch Gymru’n Daclus yw cadw costau ardystio yn fforddiadwy a sicrhau bod y Goriad Gwyrdd ar gael i bob darparwr twristiaeth. Mae lefelau buddsoddi felly’n amrywio yn ôl maint y busnes: 

 

Mae costau’n cael eu talu fel rhan o’r broses ymgeisio ac yna’n flynyddol ar ôl diweddaru dilysiad (i gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/gwobrau/goriad-gwyrdd/).

5.3 Cynllun Seren

Mae’r Cynllun Seren yn seiliedig ar BS8555 ac mae’n dilyn yr un dull cam wrth gam. Gall sefydliadau ddewis defnyddio’r Cynllun Seren i gyflawni safonau eraill System Reoli Amgylcheddol fel ISO 14001 neu Gynllun Eco-reoli ac Archwilio, neu gofrestru ar gam sy’n cyd-fynd â natur a graddfa eu busnes ac aros ar y cam hwnnw. 

Mae’r Cynllun Seren yn berthnasol i sefydliadau mawr a bach ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar wella’n barhaus. 

Mae BS8555 wedi’i rannu’n 5 cam: 

  • Cam 1: Arweinyddiaeth, cyd-destun ac ymrwymiad 
  • Cam 2: Sicrhau cydymffurfiad 
  • Cam 3: Cynllunio a datblygu System Reoli Amgylcheddol 
  • Cam 4: Gweithredu System Reoli Amgylcheddol 
  • Cam 5: Gwirio a diweddaru System Reoli Amgylcheddol 

Cyn belled â bod sefydliadau’n pasio arolygiad blynyddol, gallant aros ar y cam penodol hwnnw am gyfnod amhenodol a defnyddio System Reoli Amgylcheddol i ddangos eu hymrwymiad i reoli’r amgylchedd i randdeiliaid a chwsmeriaid. 

Mae’r Cynllun Seren yn cael ei weinyddu gan gwmni preifat o’r enw Tarian Inspection Services, sy’n cynnal arolygiadau mewn ffordd gyfeillgar ac ymarferol iawn. Maent yn sicrhau bod gan gwmnïau System Reoli Amgylcheddol gadarn sy’n gwella eu hygrededd, sicrhau dulliau rheoli da, ac arbedion cost. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn http://www.serenscheme.com/. 

6. Cynllun Eco-reoli ac Archwilio yr UE

Mae Cynllun Eco-reoli ac Archwilio yn gynllun gwirfoddol i reoli’r amgylchedd a gynlluniwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Ei nod cyffredinol yw galluogi gwelliant parhaus ym mherfformiad amgylcheddol cwmnïau, ac mae’r iaith yn debyg i’r un yn ISO 14001. Fodd bynnag, nod ISO 14001 yw gwella’r system yn barhaus, gobeithio, gan arwain at wella perfformiad amgylcheddol y sefydliad. Mae System Reoli Amgylcheddol yn mynnu bod perfformiad amgylcheddol y sefydliad yn cael ei asesu drwy ddangosyddion sy’n ymwneud â chwe maes craidd – effeithlonrwydd ynni, effeithlonrwydd deunyddiau, allyriadau, dŵr, gwastraff a defnydd tir o ran bioamrywiaeth.  

Mae Cynllun Eco-reoli ac Archwilio yn fwy trylwyr nag ISO 14001. Fodd bynnag, mae ISO 14001 yn bodloni’r elfen System Reoli Amgylcheddol mewn perthynas â gofynion Cynllun Eco-reoli ac Archwilio.  

Mae cofrestru gyda’r cynllun yn gofyn am y camau canlynol: 

  • Cynnal adolygiad amgylcheddol rhagarweiniol – dyma fydd y llinell sylfaen ar gyfer gwella 
  • Mabwysiadu polisi a rhaglen amgylcheddol lle rydych chi’n cynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid allanol  
  • Sefydlu a gweithredu System Reoli Amgylcheddol 
  • Paratoi datganiad amgylcheddol  
  • Dilysydd amgylcheddol i ddilysu System Reoli Amgylcheddol a datganiad amgylcheddol. 

Gan gydnabod yr heriau sy’n wynebu busnesau bach a chanolig, mae cynlluniau eco-reoli ac archwilio wedi diwygio’r rheolau ar gyfer busnesau bach a chanolig er mwyn eu hannog i gymryd rhan yn y cynllun. Mae’r rhain yn cynnwys dilysiad bob pedair blynedd (yn hytrach na thair) a chyhoeddi’r datganiad amgylcheddol bob dwy flynedd, yn hytrach na bob blwyddyn. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd mewn rhai Aelod-wladwriaethau, yn ogystal â nifer o adnoddau a chanllawiau i helpu busnesau bach a chanolig. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: 

Yn gryno...

Mae angen i fusnesau bach a chanolig ddangos mwy a mwy o ddealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol a dull strategol o leihau effaith hinsawdd ac amgylcheddol i fodloni darpar gwsmeriaid ac i ddiogelu eu busnes ar gyfer y dyfodol. 

Yng ngoleuni’r diwylliant ticio blychau sy’n gyffredin mewn materion amgylcheddol, mae llawer o sefydliadau’n chwilio am systemau ehangach a mwy diddorol, gan archwilio’r effeithiau ar eu staff, eu cymunedau a’u cadwyni cyflenwi.  

Beth bynnag fo’r fframwaith ar gyfer adrodd ar yr amgylchedd, bioamrywiaeth, cynaliadwyedd neu ESG, mae angen i fusnesau lynu wrth gysyniadau tebyg o hyd: canolbwyntio ar arweinyddiaeth a pherchnogaeth staff, deall effeithiau, blaenoriaethu, cynllunio, cyfathrebu, gweithredu ac adolygu. 

Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch gydag unrhyw un o’r gweithgareddau hyn, cysylltwch â’n cynghorwyr cynaliadwyedd.

Systemau Rheoli Amgylcheddol – Canllaw i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru Read More »

Hyfforddiant

Datblygu gwybodaeth a rhoi’r grym i weithredu dros ddyfodol cynaliadwy

Hyfforddiant cynaliadwyedd gan Cynnal Cymru

Mae Cynnal Cymru yn cefnogi unigolion a mudiadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol i ddeall pam a sut gallant weithredu dros ddyfodol cynaliadwy.

Ein cenhadaeth yw creu cyfleoedd dysgu sy’n hyblyg a fforddiadwy i sbarduno camau gweithredu a chael effaith ar y materion mwyaf brys sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy.

O Gymru, i unrhyw un, yn unrhyw le

Mae ein cyrsiau ar gyfer unigolion a sefydliadau o unrhyw sector neu ddiwydiant. Efallai ar gyfer y cam cyntaf o wneud newidiadau cadarnhaol neu ar gyfer helpu i ddatblygu strategaethau ac adroddiadau integredig sy’n mesur gwerth manteision ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol ac yn mesur newid cynaliadwy mewn ffordd systematig.

Rydym yng Nghymru ond mae ein cyrsiau ar gyfer pawb, ni waeth ble rydych chi yn y Byd.

guillaume-de-germain-6Xw9wMJyHus-unsplash-678x406

Dysgu hygyrch

Efallai eich bod chi’n weithiwr cynaliadwyedd proffesiynol sydd eisiau gwneud newidiadau mewn sefydliad, neu’n rhywun sydd heb wybodaeth flaenorol am ddatblygu cynaliadwy ond sy’n awyddus i wneud newidiadau i’ch ffordd o fyw. Mae ein cyrsiau’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i weithredu ar y materion mwyaf brys sy’n effeithio ar ein dyfodol.

Dysgu hyblyg

Mae ein cyrsiau’n cyfuno sesiynau dan arweiniad tiwtor a chyfleoedd dysgu rhwng cymheiriaid gydag astudio hunangyfeiriol. Mae’n bosibl darparu hyfforddiant ar-lein neu wyneb yn wyneb, er mwyn gallu dysgu ar yr un pryd â chyflawni ymrwymiadau gwaith a gofalu, a hefyd i’ch galluogi i ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn rhyw bwnc neu’i gilydd.

Lady writing on paper during a workshop

Dysgu sy’n canolbwyntio ar weithredu

Mae ein cyrsiau’n rhoi gwybodaeth am yr wyddoniaeth a’r polisïau diweddaraf, felly maent yn eich helpu i ddatblygu (ac ymrwymo) i gamau gweithredu ymarferol – gan gynnwys cymell a galluogi pobl eraill.

Cyrsiau sydd ar y gweill

Discounted prices are available to Cynnal Cymru Members or for “low or no-funded” community-led initiative. Please contact training@cynnalcymru.com for your discount code.

Y newyddion diweddaraf

No posts found!

Cysylltu â ni

training@cynnalcymru.com

029 2043 1746

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Mae ein cylchlythyr misol yn cynnwys crynodeb o’r newyddion diweddaraf am gynaliadwyedd yn ogystal â gwybodaeth am ein cyfleoedd hyfforddi diweddaraf.

Hyfforddiant Read More »

9 November | Introbiz Expo launch new Sustainability Zone

[:en]

This year Cynnal Cymru are pleased to be supporting the new Sustainability Zone at the Introbiz Expo on 9 November in the Motorpoint Arena.

The Introbiz Expo is attended by thousands of businesses, keynote speakers sponsors and exhibitors, providing an excellent opportunity to network and meet potential new clients.

At the heart of the Sustainability Zone, Cynnal Cymru will be providing opportunities throughout the day to connect, collaborate and share learning in the Cynnal Connect Hub.

 

Cynnal Connect Hub

Throughout the day there will be opportunities to drop into the hub, meet sustainability experts and to attend our live ‘Innovation Shorts’ seminars, featured throughout the day.

 

Stands and Promotional Opportunities for your Organisation

Within the Sustainability Zone we have a two different sized stands to suit all manner of budgets and businesses. We also have a number of promotional advertising spaces where your organisation could be feature on our Innovation Shorts hall of fame.

 

If you would like to exhibit in the Sustainability Zone please get in contact[:cy]

Eleni, mae Cynnal Cymru’n falch i gefnogi’r parth cynaliadwyedd newydd yn yr Introbiz Expo ar Dachwedd 9fed yn yr arena Motorpoint.

Mae’r Introbiz Expo yn cael ei mynychu gan filoedd o fusnesau, areithwyr cyweirnod, noddwyr ac arddangoswyr, sy’n darparu cyfle ardderchog i rwydweithio a chwrdd â chleientiaid newydd.

Yng nghanol y parth cynaliadwyedd, bydd Cynnal Cymru yn darparu cyfleoedd i gysylltu, cydweithio a rhannu gwybodaeth trwy’r dydd yn yr Hwb Cyswllt Cynnal.

 

Cynnal Connect Hub

Trwy gydol y dydd bydd cyfleoedd i ymweld â’r Hwb, cwrdd ag arbenigwyr cynaliadwyedd, a mynychu ein seminarau ‘byrion arloesedd’ sydd yn mynd ymlaen trwy’r dydd.

 

Stondinau a chfleoedd hyrwyddol i’ch sefydliad

O fewn y parth cynaliadwyedd bydd gyda ni stondinau o ddau wahanol faint i fod yn addas i bob math o gyllideb a busnes ar gael. Hefyd, bydd gyda ni gwagleoedd hysbysebion hyrwyddol lle gallai’ch sefydliad fod yn cael sylw yn ein neuadd o enwogrwydd y byrion Arloesedd.

Os hoffech arddangos yn y parth cynaliadwyedd, gan gynnwys slot 15 munud i siarad neu hoffech ddarganfod rhagor am ein cyfleoedd hyrwyddol, Cysylltwch os gwelwch yn dda.

Gostyngiadau ar gael i aelodau Cynnal Cymru.[:]

9 November | Introbiz Expo launch new Sustainability Zone Read More »

Scroll to Top
Skip to content