
Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae prosiect Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol yn fenter arloesol sydd wedi’i hanelu at drawsnewid prydau ysgol yng Nghymru drwy lens cynaliadwyedd. Drwy ail-gynllunio bwydlenni ysgolion cynradd ac ymgorffori cynnyrch lleol, tymhorol o fewn y ddarpariaeth bwyd yn y sector cyhoeddus, mae’r prosiect yn ceisio cefnogi economïau lleol, lleihau allyriadau carbon a gwella addysg am fwyd.







