Diweddariadau

Gwneud y pethau bychain yng Nghaerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

Eleni, ar Ddydd Gŵyl Dewi, ‘rydym yn gofyn i sefydliadau ar draws Caerdydd ystyried y pethau bychain y gallant wneud i sicrhau nad oes rhaid i unrhywun yng Nghymru weithio am lai na’r Cyflog Byw go iawn, boed hynny’n cynnwys deall sut mae bod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, ceisio annog sefydliadau eraill i ystyried y Cyflog Byw go iawn neu ein helpu ni i rannu negeseuon cadarnhaol am y gwahaniaeth y mae talu’r Cyflog Byw go iawn yn gallu’i wneud.

Cyngor Caerdydd yw’r unig gyngor achrededig fel Cyflogwr Cyflog Byw yng Nghymru. Mae’r cyngor a phartneriaid yn hyrwyddo Caerdydd fel Dinas Gyflog Byw sy’n cael effaith cadarnhaol ar y Ddinas a’i gweithwyr. O Chwefror 1af 2021 ymlaen, mae 45% o gyflogwyr achrededig yng Nghymru yn dod o Gaerdydd ac mae cyflogwyr Caerdydd wedi cyfrannu at 69% o godiadau cyflog oherwydd achrediad. Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerdydd wedi dangos bod 124 cyflogwr yn achredu yng Nghaerdydd wedi arwain at 7,735 o weithwyr yn derbyn codiad cyflog sy wedi ychwanegu dros £32m at yr economi lleol o fewn 8 mlynedd.

Er mwyn clywed mwy am fuddion achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw gwyliwch ar y fideo.

Dyma oedd gan y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd i’w ddweud:

“Mae’r pethau hynny sy’n ymddangos yn rhai bychain wir yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr, a dw i’n deall yr effaith sylweddol y mae talu’r Cyflog Byw go iawn wedi cael ar fywydau ein staff ni. ‘Rydym yn falch i gefnogi sefydliadau ar draws y ddinas, i’w galluogi i wneud yr un peth ar ran eu cyflogai hwythau ac, ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, byddwn yn annog unrhyw fusnes sydd â diddordeb mewn talu’r Cyflog Byw go iawn i gysylltu â ni, a dysgu mwy am y cynllun”.


Mae Cyngor Caerdydd yn deall bod y buddion ehangach o’r Cyflog Byw go iawn yn gallu fod o fudd i unigolion a chyflogwyr yn ychwanegol a’r ddinas ac maen nhw wedi gwneud ymrwymiad i ad-dalu ffioedd i fusnesau bach a chanolig yng Nghaerdydd trwy’i chynllun cefnogaeth achrediad.

Am fwy o wybodaeth ar y Cyflog Byw yng Nghaerdydd ewch at y wefan.

Hefyd, mae cyngor Caerdydd yn annog cyflogwyr lleol i ddarparu cynlluniau cynilo a benthyciadau cyflogres, yn galluogi eu gweithwyr i arbed arian yn uniongyrchol o’u cyflogau ac os oes angen cynnig credyd fforddiadwy oddi wrth ddarparwr moesegol. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Cardiff and Vale Credit Union.

Cynnal Cymru yw corff achredu’r Cyflog Byw go iawn yng Nghymru ac ‘rydym yma i’ch helpu chi drwy’r broses achredu. Cysylltwch â ni, ymunwch â’r mudiad, gwnewch y pethau bychain.

Dymunwn Ddydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. Diolch yn fawr!

Cymuned Ymarfer yr Economi Sylfaenol

Dechreuodd cymuned ymarfer yr economi sylfaenol ym mis Gorffennaf fel rhan o Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Ei nod yw rhannu dysgu ac arloesi, adeiladu cysylltiadau ac annog cydweithredu.

Roedd y Gronfa Her wedi darparu cefnogaeth i brosiectau a oedd am arbrofi ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r heriau – rhai ohonynt yn newydd, eraill yn hen iawn – a wynebir gan fusnesau’r economi sylfaenol, neu’r rhai sy’n dibynnu ar eu gwasanaeth.

Roedd rhain yn cynnwys:

  • recriwtio, cadw a sgiliau’r gweithlu
  • y strwythurau cyflenwi a chynllun y gwasanaethau
  • recriwtio, cadw a sgiliau’r gweithlu
  • y strwythurau cyflenwi a chynllun y gwasanaethau

Y nod oedd archwilio i ystod o ddatrysiadau a fyddai, o bosib, yn cynhyrchu modelau hyfyw addasadwy yr oedd modd eu tyfu a’u lledaenu, er mwyn cryfhau economïau lleol ac adeiladu cyfoeth cymunedol.

Gan ddechrau yn 2019 gyda 52 prosiect cychwynnol, y disgwyl oedd, o’r cychwyn, na fyddai rhai o’r arbrofion yn llwyddiannus, ac roedd effaith y pandemig wedi gwneud yr amodau yn fwy heriol fyth.

Serch hynny, gosodwyd cymuned ymarfer yn ei lle er mwyn helpu dal peth o’r dysgu a’r ddealltwriaeth gyfoethog a gynhyrchwyd gan yr holl brosiectau a oedd wedi cymryd rhan. Mae’r enghreifftiau yn yr astudiaethau achos isod yn cynnig blas o’r prosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa – eu llwyddiannau, eu heriau ac, yn bennaf oll, dysgu beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r economi sylfaenol yn eu hardal neu sector. Daeth y Gronfa i ben ym mis Mawrth 2021 ond, ar gais yr aelodau, mae’r gymuned ymarfer wedi parhau. Mae ei rȏl yn dal i gynnwys rhannu dysgu, annog a lledaenu deialog ac hyrwyddo cydweitho.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â sesiwn, neu am wybod mwy, cysylltwch â clare@cynnalcymru.com

Scroll to Top