Newyddion Aelodau

Dathlu mannau gwyrdd anhygoel

Mae 248 parc a man gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Maent yn cynnwys ystod amrywiol o safleoedd, o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd. 

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr ryngwladol y Faner Werdd yn arwydd bod gan barc neu fan gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n rhagorol a bod ganddo gyfleusterau gwych i ymwelwyr. 

Mae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU, sydd yn cael eu cynnal a’u cadw a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.  Mae amrywiaeth o fannau gwyrdd wedi cyflawni Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf yn cynnwys Ynys Tysilio, Ynys Môn a Golchdy Tŷ Tredegar, Casnewydd.  

Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru:  

“Mae gan ein mannau gwyrdd lleol yn chwarae rhan hanfodol i gysylltu ni â byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn profi bod parciau ac ardaloedd tebyg Cymru yn gwneud gwaith gwych yn darparu lleoedd o safon i ymlacio a mwynhau.  

“Mae’r safon sy’n ofynnol i ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly rwyf am longyfarch pob un o’r safleoedd a gydnabyddir am ddarparu cyfleusterau rhagorol trwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.  

“Mae’n wych gweld ein bod ni’n dal i ddal mwy na thraean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU yng Nghymru – yn enwedig gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dysgu i ni i gyd pa mor bwysig yw natur a mannau gwyrdd i’n lles meddyliol a chorfforol.” 

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.  Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.  

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus

“Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a manau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau.  Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.” 

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru   

Mae Cadwch Gymru’n Daclus bob amser yn chwilio am fannau newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd.  Os hoffech roi eich parc neu fan gwyrdd chi ar y map, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth. 

Dathlu mannau gwyrdd anhygoel Read More »

Rhoi help llaw i natur.  Cannoedd o becynnau gardd newydd am ddim ar gael i gymunedau

Ers 2020, mae bron 800 o erddi eu creu, eu hadfer a’u gwella trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur.  Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.

Mae’r ceisiadau bellach wedi ailagor, ac mae cymunedau yn cael eu hannog i gymryd rhan ac osgoi colli’r cyfle. Mae’r system ymgeisio ar-lein newydd yn ei gwneud hi’n hawdd iawn gwneud cais, yn ogystal â chynnig adnoddau, arweiniad a diweddariadau o’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Gallwch ddewis o erddi bywyd gwyllt a thyfu bwyd bach neu ar raddfa fwy, neu am y tro cyntaf mae’r cynllun yn cynnig pecyn perllan gymunedol newydd.

Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae’r pandemig wedi rhoi mwy o werthfawrogiad i ni i gyd o natur a’i phwysigrwydd i’n hiechyd a’n lles meddwl. Rwy’n falch o gefnogi blwyddyn arall o Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae’r rhaglen yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl o bob cefndir a gallu gymryd rhan, fel cymuned, i greu a mwynhau byd natur yn y mannau lle rydyn ni’n byw ac yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser.

“Mae gwerthfawrogi byd natur a chymryd camau bach lleol mor bwysig fel rhan o’r ymdrech ar y cyd sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, a chefnogi’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid rydyn ni’n caru eu gweld yng Nghymru.”

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus Louise Tambini:

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl wir wedi gwerthfawrogi gwerth byd natur ac rydym yn falch iawn o gynnig pecynnau garddio am ddim eto i gymunedau. Rydyn ni’n gwybod bod garddio a bod allan ym myd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les meddwl, ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini a chwrdd â phobl newydd. Trwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym wedi creu cannoedd o gynefinoedd a mannau newydd ar gyfer natur, sy’n hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd bresennol a’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

“Diolch i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru a’n partneriaid mae ein pecynnau gardd yn cynnwys yr holl ddeunyddiau ac offer sydd eu hangen arnoch i greu gofod newydd ar gyfer natur a bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i osod yr ardd.”

Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’.

Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael.  I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/nature 

Rhoi help llaw i natur.  Cannoedd o becynnau gardd newydd am ddim ar gael i gymunedau Read More »

Scroll to Top
Skip to content