Diweddariadau

21 Ionawr | Byw’r Dyfodol

Byddwn yn arddangos prosiectau, sefydliadau a mentrau lleol cyffrous sy’n arwain y gwaith o ymgorffori 7 Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn arbrofi â meddwl am y dyfodol a dulliau creu gweledigaeth greadigol. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi’r lle inni ddychmygu gweledigaeth ysbrydoledig o’r dyfodol, gan adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd, a symbylu momentwm ac egni cyfunol o amgylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  

Mae’r digwyddiad hwn ar agor i bob sector a phob proffesiwn, o bob cwr o Gymru, a bydd o ddiddordeb arbennig i’r rhai sy’n ymwneud â gweithio tuag at ddyfodol cadarnhaol.  

Bydd yn gyfle i feithrin cysylltiadau a pherthnasoedd, ac i ddathlu a phwyso a mesur rhai o’r prosiectau a’r sefydliadau sy’n cyflawni newid ystyrlon sy’n seiliedig ar le.  

Gan adeiladu ar ddigwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd drwy gydol 2025, gan gynnwys Goleuo’r Dyfodol ac Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd y digwyddiad hwn yn taflu golau ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi’i seilio mewn cyd-destun lleol a rhanbarthol.  

Dydd Mercher 21 Ionawr, 10:00 – 15:30 (gyda chinio wedi’i gynnwys) 

Aberystwyth Bandstand, Aberystwyth, Marine Terrace, SY23 2BY

Mae’r siaradwyr yn cynnwys Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a phobl leol eraill sy’n creu newid – i’w gadarnhau. 

Digwyddiad cydweithredol yw hwn a drefnir ar y cyd gan Porthi Aber, Y Ganolfan Technoleg Amgen (CAT), Cynnal Cymru – Sustain Wales, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a Hwb Dyfodol. 

21 Ionawr | Byw’r Dyfodol Read More »

Polisïau Cyflog Byw Cynnal Cymru ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026

Bu’r Cyflog Byw yn un o’r ymgyrchoedd dinesig mwyaf llwyddiannus a welwyd yn y DU.

Mewn llai na 15 mlynedd, mae dros 16,000 o gyflogwyr ledled y DU wedi cael eu hachredu’n Gyflogwyr Cyflog Byw – gyda thua 12% o’r gweithlu bellach yn gweithio i un ohonynt. Mae cannoedd o filoedd o bobl wedi derbyn codiad cyflog yn uniongyrchol ar adeg yr achrediad.

Yng Nghymru, mae gennym bellach dros 600 o Gyflogwyr Cyflog Byw, sy’n cwmpasu bron i 12% o’r gweithlu.

Mae’r twf hwn wedi parhau er gwaethaf yr heriau costau byw mewn blynyddoedd diweddar, gyda’r Cyflog Byw gwirioneddol wedi codi 41% ers 2020.

Dechreuodd Cynnal Cymru weithio gyda’r Living Wage Foundation yn 2016, fel partner achredu i Gymru. Rydym yn gweithio ar fodel ‘masnachfreinio’, sydd yn ei hanfod yn golygu cynnal Cyflog Byw Cymru yn fewnol. Rydym yn elusen cynaliadwyedd, sy’n gweithio er budd cenedlaethau’r dyfodol. Wythfed Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yw Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd, gyda Chyflog Byw yn elfen graidd o hyn, a nodau datblygu cynaliadwy eraill. Mae gweithio ar y Cyflog Byw felly’n cydweddu’n berffaith â’n hamcanion elusennol.

Yn y naw mlynedd y buom yn gweithio ar y Cyflog Byw, mae ein gwaith gyda’r Living Wage Foundation wedi arwain at 21,000 o bobl yn cael codiad cyflog yn uniongyrchol ar adeg achredu eu cyflogwr. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod yr effaith wirioneddol yn fwy na hyn hyd yn oed. Mae academyddion yn Ysgol Fusnes Caerdydd wedi nodi ‘Cyflog Byw cysgod’, gyda chyflog miloedd o weithwyr wedi’i gysylltu â’r Cyflog Byw heb achrediad. Mae hyn oherwydd cryfder y brand Cyflog Byw, a gwaith sefydliadau eraill fel yr undebau llafur yn galw am y Cyflog Byw fel isafswm mewn cytundebau bargeinio ar y cyd.

Rydym wedi gwneud cynnydd mawr ar y Cyflog Byw yng Nghymru. Mae ein rhwydwaith cyflogwyr yn tyfu, mae ein rhwydwaith o grwpiau llywio sy’n trefnu ar y Cyflog Byw ledled Cymru yn tyfu, ac mae nifer gynyddol o sefydliadau’n ymuno â’r ymgyrch.

Roeddem wrth ein boddau’n gynharach eleni i weld Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i bob corff cyhoeddus yng Nghymru lunio cynllun i achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw erbyn 2027.

Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud o hyd.

Canfu adroddiad Llesiant Cymru blynyddol Llywodraeth Cymru eleni mai dim ond 67% o bobl yng Nghymru sy’n ennill mwy na’r Cyflog Byw. Mae hyn wedi cynyddu o 64% yn y flwyddyn flaenorol, ond byddwn ond yn sicrhau ein bod yn genedl sy’n darparu Cyflog Byw i bawb os ydym yn dyblu ein hymdrechion polisi cyhoeddus i gefnogi’r Cyflog Byw.

Credwn fod y cynigion a ganlyn yn rhai credadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, y dylai pob plaid eu cynnwys yn eu maniffestos ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, a byddent yn cynrychioli cam cryf ymlaen tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a thlodi mewn gwaith yng Nghymru.  

Polisïau Cyflog Byw Cynnal Cymru ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026

1. Cyflog Byw yn Gyntaf: dylai sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus dalu Cyflog Byw

Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw sefydliad sector cyhoeddus sy’n derbyn grant yn arddangos ei fod yn talu o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol cyn y gall gael mynediad at y grant. Mae’r polisi hwn yn bodoli yn yr Alban, lle y mae eu polisi ‘Fair Work First’ yn ei gwneud yn ofynnol bod nifer o amodau Gwaith Teg yn cael eu bodloni cyn y gellir rhoi grant sector cyhoeddus, gan gynnwys tystiolaeth bod y Cyflog Byw gwirioneddol yn cael ei dalu.

Rydym yn cefnogi cyflwyno fersiwn o hyn yng Nghymru, gyda thair elfen na ellir eu negodi: bod Cyflog Byw gwirioneddol yn cael ei dalu, bod mynediad at undebau llafur yn cael ei ddarparu, a bod contractau gydag oriau gwaith gwarantedig yn cael eu darparu (gyda’r achrediad Oriau Byw yn darparu sail bosibl ar gyfer hyn).

Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau nad ydynt yn talu Cyflog Byw – dylai etholiad y Senedd yn 2026 ddynodi diwedd yr arfer hwn. Rydym yn galw ar bob plaid i fabwysiadu’r polisi hwn yn benodol yn eu maniffestos.  

2. Cryfhau a gwarchod y Cyflog Byw ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Mae’r polisi o Gyflog Byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau nifer o weithwyr gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth glir bod craciau wedi dechrau ymddangos yn y polisi.

O dan y system bresennol, mae Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo’r cyllid ar gyfer y Cyflog Byw gwirioneddol i awdurdodau lleol, y mae disgwyl iddynt wedyn ei drosglwyddo i ddarparwyr gofal, y mae disgwyl iddynt hwy wedyn ei drosglwyddo’n derfynol i’r gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain.

Rydym wedi gweld endidau gwahanol yn y gadwyn hon sy’n honni nad yw’r system yn gweithio fel y dylai. Mae ymchwil Llywodraeth Cymru ei hunan yn dangos mai dim ond 84% o weithwyr gofal sy’n derbyn Cyflog Byw. Er bod hyn yn llawer uwch na’r 44% a amcangyfrifwyd oedd yn derbyn Cyflog Byw cyn etholiad diwethaf y Senedd, mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod pob gweithiwr gofal yn derbyn Cyflog Byw gwirioneddol fel isafswm. Mae gwaith gofal yn waith medrus, trwm ac mae pobl yn y sector yn haeddu cael Cyflog Byw fel yr isafswm cyflog

Rydym yn galw ar bob plaid i ymrwymo i warantu y bydd Llywodraeth Cymru a arweinir gan eu plaid yn sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn derbyn y Cyflog Byw gwirioneddol, gan ddefnyddio’r dull Cytundeb Cyflog Teg i sicrhau mai’r Cyflog Byw gwirioneddol yw isafswm y gyfradd gyflog ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dylid cefnogi hyn gyda chyllid digonol gan lywodraeth nesaf Cymru i wireddu’r polisi hwn, gyda’r cyllid wedi’i glustnodi os oes angen.  

3. Dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru fod yn Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig

Mae talu’r Cyflog Byw gwirioneddol yn uniongyrchol i’r holl staff cyflogedig yn ddechrau da, ond mae mwy i gyflogwyr ei wneud. Mae’n bosibl bod rhai cyflogwyr yn talu Cyflog Byw gwirioneddol yn uniongyrchol i’w staff cyflogedig, ond maent hefyd yn rhoi contractau allanol ar gyfer gwasanaethau glanhau a diogelwch, er enghraifft ar gyfer eu hadeiladau, i gwmnïau nad ydynt yn talu’r Cyflog Byw gwirioneddol. Mae hyn yn golygu bod man gwan lle y gall cyflogwyr osgoi talu’r Cyflog Byw i rai o’u staff sydd ar y cyflogau isaf. 

Er mwyn derbyn achrediad Cyflogwr Cyflog Byw, mae’n rhaid talu’r Cyflog Byw i’r holl aelodau hyn o staff, gan roi hyder bod pawb a ddylai dderbyn Cyflog Byw yn ei dderbyn.

Mae Mark Drakeford ac Eluned Morgan ill dau wedi ysgrifennu yn eu capasiti fel Prif Weinidog at yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gofyn iddynt ddod yn Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig, ac mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi argymell bod pob corff cyhoeddus yn dod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig erbyn 2027. 

Fodd bynnag, dim ond lleiafrif bach o gyrff cyhoeddus sydd wedi gwneud hyn. Rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol ddatgan yn eu maniffestos y bydd pob corff cyhoeddus (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol) yn cael ei fandadu i ddod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Gellir gwneud hyn drwy ddulliau fel llythyrau cylch gwaith, neu gyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol.   

Polisïau Cyflog Byw Cynnal Cymru ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026 Read More »

24 Tachwedd | Cyfres Arwain Agweddau: 10 Mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 

Ymunwch â ni ar 24ain Tachwedd i dynnu sylw at arweinyddiaeth ar draws y sector sydd wedi ymrwymo i genedlaethau’r dyfodol, gan ddangos sut maen nhw wedi gweld, dehongli a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar draws eu sefydliadau.

Bydd panelwyr gwadd traws-sector yn ymuno â ni, sy’n arweinwyr o ran gyrru gwerthoedd y Ddeddf, gyda’r gallu i feddwl, atal a chydweithio yn y tymor hir, a hefyd sut mae hyn yn cyd-fynd â’u nodau cynaliadwyedd. Byddwn hefyd yn dathlu sut mae hyfforddiant a chymorth ymgynghorol Cynnal Cymru yn helpu sefydliadau i gyd-fynd â’r Ddeddf a llunio strategaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Beth i’w ddisgwyl:

  • Sgyrsiau gydag ymarferwyr yn gwreiddio nodau’r Ddeddf mewn cyd-destunau byd go iawn
  • Gwybodaeth gan swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Safbwyntiau’r sector ar ddatgarboneiddio, cadernid cymunedol, a thwf cynhwysol
  • Rhwydweithio â phobl sy’n creu newid ledled Cymru

Mae’r panelwyr gwadd yn cynnwys:

  • Korina Tsioni – Arweinydd Rhaglen, Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Mefty Haider – Cynghorydd Arbenigol: Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Caitlin Rodrigues – Rheolwr Ymchwil Cymdeithas Adeiladu Principality a Chadeirydd ei rhwydwaith cydweithwyr Hil ac Ethnigrwydd
  • Clive Williams – Rheolwr Amgylcheddol Grŵp yn y Sinclair Group

Bydd cymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn rhoi enghreifftiau i chi a’ch sefydliad o arweinwyr y sector yn defnyddio dulliau penodol o weithredu ar yr hinsawdd. O hyn, byddwch yn deall sut mae arweinwyr ar draws sectorau wedi cael eu ‘llwyddiannau’ a beth mae dyfodol y Ddeddf yn ei olygu iddyn nhw o ran cyflawni eu strategaethau 5-10 mlynedd.

Cofrestrwch i fod yn bresennol

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i aelodau Cynnal Cymru ac i fusnesau neu sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. (Darperir lluniaeth)

Dyddiad: 24 Tachwedd 2025
Amser: 09:45 – 14:00
Lleoliad: 0.47 Gofod Digwyddiadau Sbarc – Cynnal Cymru
sbarc|spark | Heol Maendy | Caerdydd | CF24 4HQ

24 Tachwedd | Cyfres Arwain Agweddau: 10 Mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  Read More »

Mae Cynnal Cymru yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd

Ni yw’r prif sefydliad ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gan gefnogi newid ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Ein bwriad yw sbarduno cynnydd tuag at economi carbon isel, cymdeithas deg a chyfiawn ac amgylchedd naturiol ffyniannus.

Fel elusen nid-er-elw, mae gennym dîm bach, creadigol ac ymroddedig sy’n ehangu, a bwrdd cefnogol o ymddiriedolwyr gwirfoddol.

Wrth i nifer o’n hymddiriedolwyr ddod i ddiwedd eu cyfnod yn y swydd, rydyn ni’n chwilio am ymddiriedolwyr newydd.

Am beth rydyn ni’n chwilio gan ymddiriedolwyr newydd?

Rydyn ni’n chwilio am gymysgedd o ymddiriedolwyr profiadol a newydd o bob math o gefndir, yng Nghymru a thu hwnt. Fel ymddiriedolwr, byddwch yn cefnogi’r tîm drwy ddarparu arweiniad, her ac arweinyddiaeth yn ein cyfarfodydd bwrdd chwarterol yn ogystal â chael eich annog i arwain ar agendâu penodol.

Er mwyn ymestyn ein sgiliau a’n harbenigedd, yn ddelfrydol rydyn ni’n chwilio am gefnogaeth yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:

  • Arbenigedd ariannol
  • Adnoddau dynol a rheoli pobl, diwylliant, gwerthoedd
  • Arbenigedd cyfreithiol
  • Marchnata, defnyddio Deallusrwydd Artiffisial neu adnoddau eraill
  • Y Gymraeg a’i Diwylliant
  • Cynhyrchu incwm o weithgareddau masnachol neu sefydliadau ac ymddiriedolaethau
  • Rhwydweithiau daearyddol neu sector – gwella ein cysylltiadau yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, y sector cymorth i fusnesau a’r sector iechyd

Os oes gennych brofiad o fod yn ymddiriedolwr neu os ydych chi’n awyddus i ymgymryd â’ch rôl gyntaf fel ymddiriedolwr a’ch bod eisiau cyfrannu at ein tîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi ymuno â ni i hyrwyddo dyfodol mwy cynaliadwy yng Nghymru, ewch i Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr.

Os ydych chi’n cael trafferth cael gafael ar y Pecyn Recriwtio, cysylltwch â Simon@cynnalcymru.com a byddwn yn darparu’r dogfennau perthnasol yn uniongyrchol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, nos Lun 15 Medi 2025

Mae Cynnal Cymru yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd Read More »

Rydym yn Recriwtio – Cynghorwr Cynaliadwyedd

Ydych chi’n frwd dros gynaliadwyedd a chreu effaith go iawn? Ymunwch â’n tîm fel Cynghorydd Cynaliadwyedd a helpu i sbarduno newid drwy gyngor arbenigol a hyfforddiant diddorol.

Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi ein Pennaeth Hyfforddiant a Chyngor i ddatblygu ac i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau hyfforddiant a chyngor cynaliadwyedd yr elusen. Bydd hyn yn golygu:

  • Rheoli cleientiaid a darparu a gwerthuso gwasanaethau hyfforddi a chynghori cynaliadwyedd (40%)
  • Darparu a datblygu gwasanaethau hyfforddi a chynghori mewn cyd-destun dwyieithog (50%)
  • Datblygu busnes a chynnyrch (10%)

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu unigolion a sefydliadau i elwa o’n harbenigedd—ar yr un pryd â chynyddu ein cyrhaeddiad, ein hincwm a’n heffaith fel elusen flaengar.

Rydym yn elusen fywiog a blaengar ac rydym mewn cyfnod pwysig yn ein datblygiad ar hyn o bryd. Os yw ein cenhadaeth yn taro tant a’ch bod chi’n rhannu’r un nodau â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Teitl y Swydd:Cynghorwr Cynaliadwyedd
Diweddarwyd Ddiwethaf21.07.25
Cyflog:Band 3 – £30,001-35,000 pro rata. (Rydym yn gobeithio penodi ar £31,000)
Hyd:12 mis i ddechrau, gyda chyfnod prawf o 3 mis, a’r posibilrwydd o’i gwneud yn barhaol.
Oriau:30 awr yr wythnos (4 diwrnod) / gweithio’n hyblyg
Lleoliad:Hybrid – Swyddfa Caerdydd / gartref a safleoedd cleientiaid. Disgwylir y bydd o leiaf 25% o’r wythnos (1 diwrnod) yn digwydd yn y swyddfa yn ystod diwrnodau craidd.

Gair am Cynnal Cymru

Yr ydym yn elusen datblygu cynaliadwy flaenllaw a leolir yng Nghaerdydd, yn gweithio ar draws Cymru a’r DU. Ers 2002 yr ydym wedi bod yn cefnogi sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i droi eu hamcanion cynaliadwyedd yn weithredoedd.

Drwy ddarparu cyngor, hyfforddiant ac hyrwyddo cysylltiadau, mae ein tîm o arbenigwyr cynaliadwyedd yn gweithio i gyflymu’r cynnydd tuag at economi carbon isel, amgylchedd naturiol ffynnianus a chymdeithas deg.

Ni yw partner swyddogol y Carbon Literacy Project yng Nghymru, sylfaenydd hyfforddiant llythrennedd eco Nabod Natur a phartner achrededig y Cyflog Byw go iawn yng Nghymru.


Gwneud Cais

Cwblhewch eich Ffurflen Gais a’r ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wirfoddol erbyn 09:00am ddydd Llun 22 Medi 2025.

Sylwch nad ydym yn derbyn CVs.

Cyfweliadau

Cynhelir y cyfweliadau ddydd Llun 6 Hydref yng Nghaerdydd er mwyn caniatáu i ymgeiswyr ymweld â’n swyddfa.

Rydym yn Recriwtio – Cynghorwr Cynaliadwyedd Read More »

Cymorth ar gael i Gyflogwyr yr Economi Sylfaenol

Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn fenter sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu busnesau ledled Cymru i ddatblygu gweithlu mwy cadarn a mwy medrus. Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid i dalu hyd at 50% o’r costau hyfforddi achrededig, gydag uchafswm gwerth o £50,000 fesul cais. P’un a ydych chi’n awyddus i lenwi bylchau mewn sgiliau, cadw staff, neu ddenu talent newydd, gall y Rhaglen Sgiliau Hyblyg eich helpu i fuddsoddi yn nyfodol eich tîm. Mae’r cyllid hwn ar gael i gyflogwyr sy’n gweithredu mewn unrhyw ddiwydiant ledled Cymru. I fod yn gymwys, rhaid i’ch busnes fod wedi’i leoli yng Nghymru, rhaid iddo fod yn ariannol iach ac yn ymrwymo i ryddhau staff i gwblhau’r hyfforddiant erbyn diwedd mis Mawrth 2026.

Sectorau blaenoriaethol y mae’n eu cwmpasu yw sero net, twristiaeth a lletygarwch, sgiliau digidol ac allforio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Cymorth Arloesi Hyblyg SMART

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu gwlad gadarnach, decach a gwyrddach, gydag economi sy’n seiliedig ar waith teg, cynaliadwyedd a sectorau’r dyfodol.

Rydym ni’n helpu busnesau, y trydydd sector, cyrff y sector cyhoeddus a sefydliadau ymchwil i arloesi a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd. Gall hyn helpu i fasnacheiddio fwy, gwella sgiliau a sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn gystadleuol ac yn ymdrechu tuag at fod yn ddi-garbon yn y dyfodol.

Mae Cymorth Arloesi Hyblyg SMART yn agored i unrhyw sefydliad sy’n dymuno cymryd rhan mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Cymorth ar gael i Gyflogwyr yr Economi Sylfaenol Read More »

Ymateb Cynnal Cymru i Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Bydd pob un o’r 56 corff sector cyhoeddus yng Nghymru yn gyflogwyr Cyflog Byw gwirioneddol yn y 5 mlynedd nesaf

Fel partner achredu’r Sefydliad Cyflog Byw ar gyfer Cymru, rydym yn cynnal Cyflog Byw Cymru yn fewnol, ac yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi unrhyw gyflogwr sydd am ymrwymo i’r dull profedig hwn o liniaru tlodi. Byddwn yn dilyn hyn gyda’r cyrff cyhoeddus i’w cefnogi i gyflawni eu rhwymedigaeth newydd.

Rhoi hwb i gamau gweithredu gyda manteision lluosog

Byddwn yn parhau i ddarparu’r offer a’r cymorth i gannoedd o sefydliadau a miloedd o unigolion yng Nghymru trwy ein rhaglenni hyfforddi mewn meysydd fel llythrennedd carbon a Nabod Natur. Byddwn yn gwella sut rydym yn adrodd ar ein heffeithiau lluosog fel elusen ar feysydd fel cost, swyddi, carbon, a disgwyliad oes iach

Dim atebion tymor byr

Mae yna gyfoeth o strategaethau, tystiolaeth a chynlluniau ar gyfer dyfodol gwell i Gymru. Gan adeiladu ar ein gwaith ar becyn cymorth Busnes Cenedlaethau’r Dyfodol, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gasglu camau gweithredu allweddol ‘dim difaru’ y gall sefydliadau o wahanol feintiau eu cymryd i wella’r dyfodol nawr. Bydd hyn yn helpu i gefnogi mudiad o newid, yn hytrach na dibynnu ar gymorth na fydd byth yn dod o bosibl.

Cynllun cydnerthedd bwyd cenedlaethol

Byddwn yn parhau i hyrwyddo arferion da gyda’n haelodau a’n rhwydweithiau o amgylch caffael a chyflenwi bwyd lleol ar gyfer ysgolion, y GIG ac awdurdodau lleol. Dangosodd ein digwyddiad dathlu diweddar gyda thîm Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru ac unigolion a sefydliadau arloesol beth sy’n digwydd nawr, a beth sy’n bosibl yn y dyfodol.

Symleiddio partneriaethau a chyllid

Byddwn yn parhau i herio cyllid grant y sector cyhoeddus i fod ar draws sawl blwyddyn, a pharhau i herio ein hunain i weithio gyda’r partneriaid cywir neu gefnogi eraill sydd mewn gwell sefyllfa i gyflawni.

Adolygu a chryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Byddwn yn helpu i ddefnyddio ein hanes, a’n profiad a’n rhwydweithiau cyfredol i helpu i lywio’r adolygiad yn y dyfodol. Ni oedd prif bartner y ‘Sgwrs Genedlaethol Y Gymru a Garem‘ flaenorol a helpodd i lywio’r Ddeddf, a helpodd llawer o’n staff i sefydlu Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn falch o’n hanes ac eisiau parhau i helpu eraill i lunio dyfodol gwell i bob un ohonom.

Rydyn ni eisiau gwneud Ameerah yn falch!

Simon Slater

Nododd 29 Ebrill 10fed pen-blwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dod yn gyfraith yng Nghymru. Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 — cyhoeddiad statudol a gyhoeddir bob pum mlynedd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i olrhain cynnydd ac arwain y camau y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd.

Ymateb Cynnal Cymru i Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 Read More »

A group of people sitting in a room listening to speakers on the stage.

Storïwyr hinsawdd yng Nghymru yn archwilio ffyrdd newydd o ysbrydoli cynulleidfaoedd gyda Media Cymru a Ffilm Cymru Wales

Pum prosiect Ymchwil a Datblygu arloesol yn rhannu buddsoddiad o £100,000 o Gronfa Straeon Hinsawdd Media Cymru a Ffilm Cymru Wales. Wedi’i lansio ym mis Rhagfyr 2024, cafodd y Gronfa Straeon Hinsawdd ei dyfeisio a’i chyflwyno gan Media Cymru a Ffilm Cymru Wales i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer ffilmiau nodwedd neu brofiadau ymgolli sy’n rhannu straeon pwerus am hinsawdd ac yn ysgogi gweithredu mewn ffyrdd ffres ac apelgar. Roedd y gystadleuaeth yn hynod o gystadleuol. Dewisodd Media Cymru a Ffilm Cymru Wales bum prosiect gwych i fynd drwy’r broses ymchwil a datblygu carlam 4 mis o fis Ebrill i fis Awst 2025.

Darllenwch fyw yma.

Storïwyr hinsawdd yng Nghymru yn archwilio ffyrdd newydd o ysbrydoli cynulleidfaoedd gyda Media Cymru a Ffilm Cymru Wales Read More »

Rydym yn mynd i’r Eisteddfod!

Wrth gyfri lawr i Eisteddfod Genedlaethol 2024 ym Mhontypridd wythnos nesaf, dwi’n llawn cyffro a hiraeth. Nid dathliad o ddiwylliant Cymreig yn unig yw gŵyl eleni; mae fel dod adref, i’r Eisteddfod ac i mi yn bersonol.

Mae’r Eisteddfod wedi bod yn lle arbennig yn fy nghalon erioed. Wrth dyfu i fyny, roedd yn fwy na chystadleuaeth yn unig – roedd yn borth i brofiadau newydd a chyfleoedd dysgu. Fel mynychwr ifanc, darganfyddais weithgareddau gwyddonol ymarferol, ymgysylltu ag elusennau, prifysgolion ac archwilio meysydd newydd o amaethyddiaeth a chadwraeth bywyd gwyllt Cymru i animeiddio a roboteg. Helpodd y profiadau hyn i lunio fy niddordebau ac yn y pen draw arweiniodd fi at lle rydw i heddiw, yn gweithio i Cynnal Cymru.

Bu 68 mlynedd ers i’r Eisteddfod gael ei chynnal diwethaf yn Rhondda Cynon Taf, pan gynhaliwyd yr Eisteddfod fodern gyntaf cael ei chynnal yn Aberdâr yn 1956.

Yn aml nid yw Pontypridd, un o gyn-ganolfannau diwydiannol glo a haearn y tri chwm, yn cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu am ei chymuned a’i diwylliant Cymraeg bywiog. Drwy ddod ag un o wyliau mwyaf Ewrop i’r ardal hon, rydym yn tynnu sylw at gymuned sy’n wirioneddol haeddu hyn.

Nid dathlu ein gorffennol yn unig yw nod yr Eisteddfod; mae hefyd yn ymwneud â siapio ein dyfodol. Disgwyliwyd dros 160,000 o ymwelwyr, mae’n rhoi cyfle i’n sefydliad ymgysylltu â phobl o bob cwr o Gymru.

Mae ein presenoldeb yn yr Eisteddfod yn ymwneud â mwy na dim ond arddangos yr hyn a wnawn. Mae’n ymwneud â gwneud cynaliadwyedd yn hygyrch i bawb, waeth beth fo’u hoedran, cefndir neu amgylchiadau. Mae’r sectorau cynaliadwyedd ac amgylcheddol, nid yn unig ymhlith y lleiaf amrywiol o ran hil yn y DU, ond maen nhw hefyd yn cael ei ddominyddu gan unigolion o gefndiroedd dosbarth canol. Rydym am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o hyrwyddwyr amgylcheddol Cymru, yn union fel y cefais fy ysbrydoli flynyddoedd yn ôl.

Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran camau gweithredu a pholisïau cynaliadwy yn y DU a thu hwnt. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn enghraifft wych o ymagwedd arloesol Cymru at gynaliadwyedd. Mae’r ddeddfwriaeth flaengar hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau, a mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o fynd i’r afael â phroblemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd, a newid hinsawdd. Roedd Cymru hefyd yn un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019 ac mae wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer ynni adnewyddadwy a lleihau gwastraff. Ein nod yw dathlu’r llwyddiannau hyn ac annog hyd yn oed mwy o bobl i ymuno â thaith gynaliadwyedd Cymru.

Mae’r Eisteddfod yn ymgorffori ysbryd y Cymry – cynhwysol, blaengar, a chysylltiad dwfn â’i gwreiddiau. Mae’n dathlu ein hiaith a’n traddodiadau a’n cysylltiadau â diwylliannau ar draws y byd. Fel elusen gynaliadwyedd, hoffwn weld ein cyfranogiad fel cyfle i blethu ymwybyddiaeth amgylcheddol i mewn i frethyn diwylliant Cymru. Trwy fynychu’r Eisteddfod, nid dim ond cymryd rhan mewn gŵyl; rydym yn buddsoddi yn nyfodol Cymru.

Mae angen creu cyfleoedd i bobl ifanc na fyddent o bosib yn gallu cael mynediad i fyd gwaith cynaliadwyedd a gwaith amgylcheddol fel arall. Ac mae gofalu am ein planed yn rhan annatod o ofalu am ein diwylliant a’n cymunedau Cymraeg.

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar Ddydd Llun 5ed a ddydd Mawrth 6ed o Awst yn Hwb y Sector Gwirfoddol. Dewch i ddarganfod sut mae cynaliadwyedd a’r amgylchedd yn cydblethu â diwylliant Cymru, a’n helpu i adeiladu dyfodol gwyrddach, mwy cynhwysol i Gymru.


Alys Reid Bacon yw’r Swyddog Cymorth Cyflog Byw ac AD. Alys is passionate about sustainability and is currently working on her PhD in Biological Sciences, titled, “The influence of genotype, environment management factors on yield development, grain filling grain quality in oats.”

Rydym yn mynd i’r Eisteddfod! Read More »

Adnodd Dysgu newydd ar-lein ar yr Economi Sylfaenol 

Adnodd Dysgu newydd ar-lein ar yr Economi Sylfaenol 

Mae’n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod yn lansio modiwl e-Ddysgu newydd ar Adeiladu Cyfoeth Cymunedol a’r Economi Sylfaenol. Nod yr adnodd ar-lein deniadol hwn yw helpu pobl i ddeall beth yw’r Economi Sylfaenol; y manteision y gall eu cynnig; a sut mae mynd ati i’w chryfhau. 

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn esbonio: 

“Mae’r modiwl e-Ddysgu ar-lein hwn yn offeryn ardderchog i ddeall dulliau gweithio ar sail lle yn well a sut mae Adeiladu Cyfoeth Cymunedol. Maen nhw’n gallu cefnogi a meithrin yr Economi Sylfaenol, sy’n ganolog i’n Cenhadaeth Economaidd. Rydyn ni i gyd yn rhyngweithio â’r Economi Sylfaenol bob dydd, o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, yr adeiladau rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw, a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu defnyddio. Mae’n rhan annatod o’n cymunedau a’n gwlad, ac yn gyfwerth â rhyw 40% o’r economi.  

Mae’n hanfodol ein bod yn meithrin y galluoedd a’r sgiliau sydd eu hangen i ymgorffori amcanion Economi Sylfaenol ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru. Drwy wneud hyn, gallwn gynyddu’r  cyfleoedd i’n cyflenwyr brodorol a datblygu cadwyni cyflenwi gwydn gyda’r sgiliau gorau – gan gadw’r bunt Gymreig yn ein cymunedau.  

I wneud hyn, rydym yn cydnabod bod angen darparu’r cymorth a’r cyfryngau sydd eu hangen ar ein partneriaid yn y sector cyhoeddus.  

Rwy’n falch o gael gweld lansio’r modiwl e-Ddysgu hwn a gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n helaeth i gryfhau dealltwriaeth, ymrwymiad a gwybodaeth i helpu ein sectorau sylfaenol i ffynnu.” 

Cwestiynau Cyffredin  

Pa mor hir mae’r modiwl e-Ddysgu hwn yn ei gymryd?  

  • Mae 8 rhan i’r cwrs hwn. Rydym yn argymell cwblhau’r modiwl mewn un eisteddiad, a fydd yn cymryd rhwng 30 a 45 munud.  

Ar gyfer pwy mae’r modiwl?  

  • Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer pawb – pobl sydd â diddordeb yn y pwnc neu bobl sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Rydym yn ei argymell yn arbennig i’r rhai sy’n datblygu polisïau a phrosiectau economaidd, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio ym maes caffael yn y sector cyhoeddus. Mae’r cwrs byr wedi’i gynllunio i wneud i ddysgwyr deimlo’n fwy gwybodus, hyderus a brwd! 
  • Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol i ddilyn y modiwl hwn ac mae’n addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes.  

Sut mae cael rhagor o wybodaeth?  

Adnodd Dysgu newydd ar-lein ar yr Economi Sylfaenol  Read More »

Scroll to Top