Adnoddau

Ffeithlun Effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant

Wedi’i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae’r ffeithluniau’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr amgylchedd naturiol ac iechyd, y grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt a rhai o effeithiau allweddol iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd a’r grwpiau poblogaeth hynny y gellid effeithio arnynt.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo yn ei gynllun hirdymor i weithio gyda’n partneriaid i baratoi ar gyfer effaith ddisgwyliedig ac annisgwyl newid yn yr hinsawdd yng Nghymru ac ymateb i hyn. Fel rhan o’n cyfraniad, mae’r Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd (WHIASU) wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau partner gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Adfywio Cymru a Llywodraeth Cymru, ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru. Mae’r ffeithluniau’n rhan o’r gwaith hwn sy’n mynd rhagddo a’i nod yw sicrhau bod gan sefydliadau a Chyrff Cyhoeddus yng Nghymru y dystiolaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynllunio ar gyfer yr effeithiau iechyd a llesiant ar bobl a chymunedau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd ac ymateb hyn.

Gellir eu lawrlwytho yma ynghyd â’r cyfeiriadau a ddefnyddiwyd i greu’r ffeithluniau.

Ffeithlun Effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant Read More »

Illustration of Blaenau Gwent area

Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent Adroddiad

Cynhaliwyd Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent o’r 6 hyd at yr 28 o Fawrth 2021.

Cynhaliwyd y Cynulliad arlein trwy gyfrwng Zoom. Dewiswyd hanner cant o breswylwyr Blaenau Gwent ar hap i fynd i’r afael â’r cwestiwn:

“Beth y dylid ei wneud ym Mlaenau Gwent i daclo’r argyfwng hinsawdd mewn ffordd sy’n
deg, ac yn gwella safonau byw i bawb?”

Roedd 44 cyfranogwr wedi mynychu sesiwn gyntaf y Cynulliad, ac roedd 43 o gyfranogwyr yn bresennol yn y sesiwn olaf i bleidleisio ar yr argymhellion. Roedd presenoldeb y mynychwyr yn sefydlog trwy gydol y sesiynau, a 43 oedd isafswm y mynychwyr.

Roedd yr aelodau wedi cyfarfod am gyfanswm o 23 awr i glywed tystiolaeth oddiwrth dros 20 arbenigwr gwahanol, i drafod y posibiliadau a chynhyrchu argymhellion ynghylch yr hyn y gallai sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus lleol, cymunedau ac unigolion wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a gwella bywydau pobl Blaenau Gwent.

Yn ystod y cyfnod dysgu, roedd aelodau’r Cynulliad wedi archwilio’r themáu canlynol:
• Cyflwyniad i newid hinsawdd
• Trafod tegwch a phontio teg
• Sut y mae newid yn digwydd
• Tai – ôl-osod, adeiladu o’r newydd, tlodi tanwydd, swyddi a sgiliau
• Natur a mannau gwyrdd
• Trafnidiaeth

Gallech chi ddod o hyd i’r agenda, fideos o’r sesiwn a chwestiynau eraill i’r siaradwyr ar y wefan.

Lawrlwythwch yr adroddiad hwn >>

Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent Adroddiad Read More »

Scroll to Top
Skip to content