Beth yw CLCC?
CLCC – Carbon Literacy Cartrefi Cymru yw consortiwm o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCC). Mae aelodau’r consortiwm yn cronni arian ac adnoddau er mwyn cynyddu Carbon Literacy o fewn eu sefydliadau.
Mae Carbon Literacy yn cael ei diffinio fel diwrnod werth o ddysgu o gwmpas achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd, ffyrdd o weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd a grymuso pobl i weithredu fel unigolion ac fel grŵp yn bersonol ac yn broffesiynol.
Mae’r Carbon Literacy Project wedi diffinio’r safon Carbon Literacy ac yn achredu cyrsiau a dysgwyr.
Mae 27 o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ledled Cymru yn rhan o’r Consortiwm – maen nhw’n dangos cymhelliant y sector i gyd-weithio i greu newid. Bydd y rhaglen yn cynyddu’r rhif o hyfforddwyr Carbon Literacy yng Nghymru o 1 i dros 60.
Hanes CLCC
Ym mis Hydref 2019 daeth cynrychiolwyr o 16 Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ledled Cymru at ei gilydd i ddysgu mwy am y Carbon Literacy Project a chlywed cynnig i greu consortiwm Carbon Literacy o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
Gwnaeth mynychwyr y cyfarfod golygu’r cynnig a aeth yn ôl allan i bob LCC yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2020 cynhaliwyd cyfarfod o gwmpas y cynnig a arweiniwyd i’r consortiwm o 27 LCC Cymreig yn cael ei greu. Cafodd y consortiwm ei enwi Carbon Literacy Cartrefi Cymru.
Rhaglen
- Chwefror 2020 – Cyfnod I; rowndiau o hyfforddiant Carbon Literacy i aelodau darparwyd gan Cynnal Cymru
- Mawrth 2020 – Cyfnod Clo. Mae hyfforddiant yn parhau o bell gyda chwrs ar-lein newydd a’r rhaglen CLCC i gyd yn symud ar-lein. Mae 65 o aelodau yn dod yn Carbon Literate.
- Mai 2020 – Cyfnod II; Mae 5 o arbenigwyr hyfforddi yn dod o fewn y consortiwm i weithio gyda Cynnal Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion i ddatblygu 5 o gyrsiau Carbon Literacy i dai cymdeithasol Cymru. Un cwrs i Fwrdd/ Uwch-dîm Arweinyddiaeth, un i staff sydd yn delio â chwsmeriaid, un i staff technegol ac asedau sydd yn cymryd rhan yn ôl-ffitio ac un i staff cynnal a chadw ac isgontractwyr.
- Hydref 2020 – Cyfnod III; Pob sefydliad sydd yn aelod i gael o leiaf 2 o aelodau staff hyfforddwyd fel hyfforddwyr Carbon Literacy gan Brifysgol Fetropolitan Manceinion. Bydden nhw’n cael eu hyfforddi i ddarparu cyrsiau datblygwyd yng nghyfnod II.
- Y dyfodol – Cyfnod IIII; Gall aelodau’n defnyddio eu hyfforddwyr i ddarparu hyfforddiant Carbon Literacy yn fewnol i staff i gyd ac i ymgorffori Carbon Literacy mewn i’r broses sefydlu i staff.
Siwrnai Carbon Literacy
Os hoffech wybod mwy neu gysylltu, plîs e-bostiwch luke@cynnalcymru.com sy’n rheoli ysgrifenyddiaeth CLCC.