Eich busnes
Er mwyn i’ch busnes ffynnu, mae angen iddo allu addasu i anghenion sy’n newid oherwydd newid yn yr hinsawdd. Os ydych chi’n ymwybodol o’ch allyriadau carbon, rydych chi’n gallu gwneud penderfyniadau busnes gwybodus, denu, a chadw staff, a chadw ar y blaen wrth i reoliadau busnes newid.
Eich llesiant
Fel unigolion a sefydliadau, gallwn ni i gyd wneud ein rhan i leihau allyriadau carbon. Drwy ddeall yn well sut mae allyriadau carbon yn gweithio, a beth yw eich effaith carbon ar hyn o bryd, gallwch chi chwarae rhan hanfodol yn addysgu eraill, dewis rolau sy’n addas i’ch gwerthoedd, a chymryd camau i leihau ein cyd-allyriadau carbon.
Eich dyfodol
Mae busnesau a sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu newidiadau radical – ac rydyn ni wrth law i’ch cefnogi chi. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn golygu meddwl a gwethredu’n wahanol, er mwyn creu cymunedau gwrddach, iachach a thecach. Gallwn ni eich helpu chi i ddeall a chymhwyso’r Ddeddf hon a deddfwriaeth bellach i’ch paratoi chi a’ch sefydliad ar gyfer dyfodol carbon isel.