Bocs Bwyd – llwybr gyrfa cynhwysol ym Mro Morgannwg

Gan gydweithio gyda’r sector adeiladu, mae Ysgol Y Deri wedi sefydlu menter arlwyo gynaliadwy, sy’n cefnogi disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i gael mynediad at y gweithlu.

Mae Bocs Bwyd yn fenter arlwyo, sy’n cael ei rhedeg gan Ysgol Y Deri, mewn cydweithrediad â’r diwydiant adeiladu. Wedi’i ariannu gan arian o Gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, mae’n cynnig amgylchedd ddysgu galwedigaethol i ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), ac yn galluogi Ysgol Y Deri i ddatblygu’r Hyfforddeiaeth Bocs Bwyd. Mae’r prosiect yn anelu at ddatblygu sgiliau ac hyder, ac arddangos gallu pobl ifanc sydd ag anghenion arbennig. Mae’n eu helpu i ddatblygu annibyniaeth a bod yn rhan o’r gweithlu, gweithlu y maen nhw yn aml yn cael eu cau allan ohono.

Ysgol Y Deri yw ysgol addysg arbennig Bro Morgannwg, yn gweithio gyda myfyrwyr rhwng 3 ac 19 oed ar draws y spectrwm cyfan o gyflyrau, gan gynnwys awtistiaeth gweithredu lefel uchel, problemau emosiynol, ymddygiad ac iechyd meddwl ac anawsterau dysgu dwys lluosog.

Mae’r ysgol yn canolbwyntio ar arlwyo fel llwybr galwedigaethol i ddysgwyr 14-19 oed sydd â’r potensial i fod yn economaidd weithgar. Gan atgynhyrchu’r amgylchedd waith, mae gan yr ysgol gegin hyfforddi o safon broffesiynol, a siop goffi steil barista, ar y safle.  Mae llawer o’r myfyrwyr yn gadael yr ysgol gyda chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant mewn Hylendid Bwyd ac arlwyo Lefel Mynediad a Lefel 1, a chymwysterau cyflogadwyedd, yn cynnwys BTEC. Mae’r ysgol hefyd yn darparu cyfleoedd profiad gwaith mewn lleoliadau arlwyo megis Costa a Farmhouse Inns.

Serch hynny, er gwaethaf eu profiad galwedigaethol a’u cymwysterau, oherwydd eu gallu academig mae llawer o’r myfyrwyr yn cael trafferth cwrdd â’r gofynion mynediad at gyrsiau arlwyo mewn colegau. Hefyd, dim ond ychydig gyfleoedd sydd ar gael iddynt dderbyn cefnogaeth yn y gwaith gan gyflogwyr posibl, i’w galluogi i fanteisio ar y llwybrau gyrfa y mae Ysgol y Deri wedi’u paratoi ar eu cyfer. Felly, er eu bod wedi ennill y cymwyseddau i fod yn rhan o’r gweithlu, mae llawer o’r myfyrwyr yn gadael heb y gobaith o dod o hyd i swydd go-iawn.

Er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa anodd hon, roedd Ysgol Y Deri wedi gwneud cais at Gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, ac wedi derbyn cyllid am eu prosiect Bocs Bwyd.

Mae Bocs Bwyd yn gegin arlwyo a lansiwyd yn 2019, yn gwasanaethu safleoedd dwy ysgol newydd yn y Barri, a’r ddwy ysgol yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Bro Morgannwg. Ar wahan i’r rheolwr arlwyo, mae’r gegin wedi’i staffio’n gyfangwbl gan ddisgyblion Ysgol Y Deri a’u staff cymorth.

Adeiladwyd y gegin gyda chefnogaeth y cwmnïoedd adeiladu Morgan Sindall a Bouygues UK; roedd Morgan Sindall wedi darparu’r cynhwysydd cludo ac roedd Bouygues wedi’i adleoli ar amser trosglwyddo a gytunwyd arno. Defnyddiwyd arian o’r Gronfa Her i gefnogi staff ychwanegol. 

Ar ȏl oedi oherwydd COVID, dechreuodd Bocs Bwyd wasanaethu ar y safle ym Medi 2020, yn unol â pholisi gweithio diogel Llywodraeth Cymru ac Ysgol y Deri. Mae’r gegin wedi’i rhannu’n 4 gorsaf waith, sy’n caniatáu i’r disgyblion ddatblygu sgiliau yn amrywio o waith paratoi at olchi llestri, gan ffocysu ar ansawdd, gwerth am arian a maeth. 

Roedd Bocs Bwyd yn fenter newydd ac arloesol i Ysgol Y Deri; menter arlwyo gynaliadwy a gynhelir gan, ond sydd â hunaniaeth ar wahan i, yr ysgol. Roedd hyn wedi golygu bod Ysgol Y Deri yn gallu creu amgylchedd waith go-iawn i’w dysgwyr, a oedd yn cae eu cefnogi a’u gwerthfawrogi fel cyd-weithwyr, yn hytrach na fel myfyrwyr. Yn y ffordd yma roedd hi hefyd y bwysig i dîm Bocs Bwyd eu bod yn cael eu gweld fel café cyffredin, yn hytrach na fel ‘café anghenion arbennig’.

Mae Bocs Bwyd wedi galluogi Ysgol Y Deri i fynd i’r afael â, mewn ffyrdd nad oedd yn agored iddynt cyn hyn, y ffaith bod llawer o’r disgyblion yn methu cael mynediad i goleg neu gyflogaeth wedi iddynt adael.  Roedd y meysydd i’w canolbwytio arnynt yn cynnwys datblygu’r Hyfforddeiaeth Bocs Bwyd a helpu’r disgyblion a’u teuloedd gredu yn eu gallu i fod yn rhan o’r gweithlu.

Mae’r Hyfforddeiaeth Bocs Bwyd yn cyfuno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd a Rhifedd a Gwobrau Arlwyo a Chyflogadwyedd Lefel Mynediad / Lefel 1, yn arwain at ddyfarniad maint Tystysgrif, a chymhwyster Hylendid Bwyd City and Guilds Lefel 1 neu 2. Mae’r Hyfforddeiaeth hefyd y cynnwys lleifaswm o 120 awr o leoliad gwaith yn Bocs Bwyd.

Mae Bocs Bwyd wedi bod yn allweddol i’r ysgol o ran datblygu’r hyfforddeiaeth – mae nid yn unig yn caniatáu i’r ysgol ddarparu lleoliad gwaith gwarantedig, ond hefyd yn golygu ei fod yn gallu teilwra’r lleoliad i sicrhau bod y dysgwyr yn profi’r holl agweddau ar arlwyo, a darparu cymorth ychwanegol, yn ȏl yr angen. Mae hyn yn newid sylweddol i’r profiad gwaith y mae Ysgol Y Deri, yn hanesyddol, wedi medru cynnig i’w fyfyrwyr.

Mantais arall yr hyfforddeiaeth yw ei bod yn paratoi ac yn cymhwyso’r myfyrwyr at waith arlwyo ar lefel uwch na’r hyn yr oedd Ysgol Y Deri yn medru ei ddarparu yn flaenorol. Fel arfer, ni all ieuenctid sy’n gweithio ar Lefel Mynediad gael mynediad at Brentisaethau Sylfaenol, gan eu bod yn gofyn am 5 TGAU. Serch hynny, mae Hyfforddeiaeth Bocs Bwyd yn cynnig ffordd unigryw i bobl fanc ennill cymwysterau galwedigaethol tebyg tra’n gweithio ar Lefel Mynediad, rhywbeth nad yw Ysgol Y Deri wedi gallu cynnig fel pecyn erioed o’r blaen. Erbyn hyn mae 8 dysgwr wedi cwblhau’r Hyfforddeiaeth. Mae Charlie, sy’n hyfforddi yn Bocs Bwyd, wedi cael ei dderbyn ar gwrs arlwyo yng Ngholeg Pen y Bont, ac yn dechrau yno ym Medi 2021, tra bod eraill wedi llwyddo i ennill lleoedd ar gyrsiau arbenigol Lefel 1 mewn sectorau diwydiannol eraill. Mae pob un ohonynt wedi datblygu ffydd mewn llwybr at waith cyflogedig, llwybr nad oeddent, cyn hyn, yn credu ei fod yn agored iddynt.

Mae amgylchedd waith go-iawn Bocs Bwyd yn rhoi cyfle i’r disgyblion arddangos eu doniau i gwsmeriaid sy’n talu, a hynny yn y byd mawr sydd ohoni. Mae hyn, a’r model gwaith a gefnogir (lle mae’r dysgwyr yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi fel cyd-weithwyr, yn hytrach na fel myfyrwyr) yn darparu gofod lle y gall y disgyblion ddatblygu eu hunan-gred ac hyder fel aelodau o’r gweithlu. Atgyfnerthwyd hyn gan Hyfforddiant Swyddi, gan gynnwys Cynllunio Person Ganolog, i greu proffil galwedigaethol a llwybrau at waith.

Mae’n bosibl gweld llwyddiant y prosiect yn y maes hwn drwy wrando ar sylwadau’r disgyblion, y rhieni a’r gofalwyr.

“Mae gweitho yn Bocs Bwyd wedi gwella fy hyder pan yn cyfranogi at amgylchedd waith, ac wedi gwella fy sgiliau rhyngbersonol”. Sam, hyfforddai Bocs Bwyd.

Mae’r holl ofalwyr a’r rhieni yn cytuno’n gryf bod eu plentyn wedi ennill mwy o hyder o ganlyniad o fod yn rhan o Bocs Bwyd ac yn cytuno, neu’n cytuno’n gryf, bod gan eu plentyn mwy o obaith ynghylch y dyfodol, ac yn bositif o ran derbyn gwaith cyflogedig. Roedd y rhieni a’r gofalwyr hefyd yn cytuno, neu’n cytuno’n gryf, eu bod nhw hefyd yn fwy gobeithiol ynghylch dyfodol eu plant, ac yn fwy hyderus y byddant yn dod o hyd i waith cyflogedig. 

Er gwaethaf llwyddiannau’r prosiect, mae ei natur arloesol yn golygu bod rhai o’r heriau heb eu datrys, ac mae angen mwy o waith at y dyfodol.

Mae rhai o’r problemau yn cynnwys materion llywodraethu a chyfansoddiadol o ran ysgol yn cynnal busnes. Am y rhesymau addysgiadol a amlinellwyd uchod, ac er mwyn creu model lle y gallai Ysgol Y Deri weithredu prosiect Bocs Bwyd ar sail adennill costau, roedd hi’n bwysig bod Bocs Bwyd yn endyd ar wahan i’r ysgol. Serch hynny, mae masnachu gan ysgolion yn codi problemau yng Nghymru, gan nad yw system ysgolion Cymru wedi’i hacademeiddio, fel yn Lloegr; yno mae’n haws i ysgolion droi’n academi, ac mae gan academi rheoliadau llai caeth o ran masnachu. Mae Ysgol Y Deri yn cefnogi’r ffaith nad yw ysgolion Cymru yn cael eu hacademeiddio ond, serch hynny, mae ‘n golygu bod hi’n eithaf anodd i ysgol gynnal busnes.

Gan weithio gyda Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, roedd Ysgol Y Deri wedi llunio cyfansoddiad i gynnal Bocs Bwyd fel Cwmni Cymdeithasol (menter) sy’n gweithredu fel CIC ond, yn hytrach na’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, mae’n cael ei arolygu gan bwyllgor a gyfansoddir a’i lywodraethu gan reolau cadarn yn yr ysgol. Yr ydym eto i weld hyfywedd hirdymor y datrysiad hwn, gan fod cwestiynau’n codi ynghylch atebolrwydd y pwyllgor, ac mae’r rhain yn cael eu harchwilio gan Gyngor Bro Morgannwg. Os bydd y model yn gweithio, mae’n cynnig model addysg alwedigaethol newydd (a fyddai o ddefnydd ehangach na dim ond ym maes arlwyo) sy’n ariannu, yn rhannol neu’n gyfangwbl, ei gost. Ar hyn o bryd mae’r ysgol yn darparu ‘cymhorthdal’ i Bocs Bwyd drwy ddarparu cefnogaeth swyddfa a’r staff addysgu. Serch hynny, hoffai’r tîm symud at sefyllfa lle y mae’r costau’n cael eu talu gan gymorth grant neu gytundeb lefel gwasanaeth, gyda’r strwythur Cwmni Cymdeithasol yn golygu bod Bocs Bwyd yn gallu ymgeisio am ystod ehangach o grantiau, o’i gymharu â’r hyn y gall yr ysgol ymgeisio amdanynt.

Her arall yw twf a chynaliadwyedd y prosiect at y dyfodol. Mae’r prosiect ar waith ond mae arweinydd y prosiect, Sue Williams, yn cydnabod bod cychwyn prosiectau o’r fath yn aml yn cael ei wneud gan obeithio am y gorau; mae hi am i’r prosiect ddal i fod yn hyfyw ac osgoi bod tîm y prosiect yn suddo dan bwysau’r gwaith. Am 6 mis roedd Bocs Bwyd yn rhedeg dau safle yn gyfochrog, gan ddodi pwysau ar y tîm ond hefyd yn arddangos gallu’r prosiect i dyfu.

Mae gan Bocs Bwyd ddiddordeb mewn dwy agwedd o’i dwf; datblygu model busnes cynaliadwy a’r effaith addysgiadol. Yn fasnachol, maen nhw am fod yn brif gynheiliad i’r diwydiant adeiladu lleol, yn darparu bwyd i weithwyr adeiladu a bod yn rhan bwysig o’r drafodaeth ynghylch gwerthoedd cymdeithasol yn y sector. Yn addysgiadol, mae’r tîm y archwilio a fyddai’n bosibl lletya lleoliadau hunan-ariannu, a p’un ai fyddai modd darparu lleoliadau gwaith i ysgolion arbennig llai o faint, er mwyn eu galluogi nhw i ddatblygu eu hyfforddeiaethau neu brentisiaethau eu hun.

Yn olaf, er gwaethaf eu sgiliau a chymwysterau ychwanegol, nid yw’r llwybr at waith neu addysg bellach i ddisgyblion Bocs Bwyd bob amser yn glir. Mae Sue yn esbonio y bydd gan y dysgwyr sy’n gadael Bocs Bwyd yr holl sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant arlwyo; y broblem yw bod angen arnynt ychydig o gymorth ychwanegol yn y gweithle, a nid yw’r mwyafrif helaeth o gyflwogwyr yn darparu hyn. Felly, mae’r tîm yn ymchwilio sefydlu partneriaeth gyda sefydliad mawr y sector cyhoeddus, gan gydweithio gyda nhw i wella’u gallu i gefnogi phobl sydd ag anghenion arbennig; efallai y bydd modd cynnig gwasanaeth hyfforddwr swyddi, yn gyfnewid am ymrwymiad i dderbyn nifer penodedig o ddisgyblion Bocs Bwyd fel staff. Mae Bocs Bwyd hefyd yn ymchwilio cyllido rhaglen barhaol ar gyfer NEETS, a’u cymhwystra am raglen Kickstart yr Adran Waith a Phensiynau; ar hyn o bryd, nid yw’r disgyblion yn gymwys i dderbyn hwn gan na fyddant wedi bod ar Gredyd Cynhwysol pan yn gadael Ysgol Y Deri.

Ond nid yw’r heriau hyn yn tynnu oddiwrth yr effaith bositif ar y dysgwyr. Mae Sue yn dweud ei bod “wedi’i syfrdanu gan newid meddylfryd y bobl ifanc a oedd yn ymuno â ni”. Newid meddylfryd lle y mae’n bosibl gweithio mewn amgylchedd gyhoeddus sy’n herio dysgwyr ac, wrth wneud hynny, sy’n rhoi cyfle iddynt dyfu.

O fis Medi 2021 mae Ysgol Y Deri yn bwriadu creu dosbarth Bocs Bwyd dynodedig, gyda’r staff addysgu a’r staff cymorth yn cael eu hariannu o gyllideb craidd yr ysgol. Bydd y costau ychwanegol sy’n codi o gynnal y busnes yn cael eu had-ennill o’r gweithgareddau masnachu. 

Mae’r ffigyrau masnachu 12 mis rhagamcanol yn awgrymu elw gros ar werthiant – yn cwrdd â chostau gweithredol ychwanegol Ysgol Y Deri o gynnal menter arlwyo. Mewn cydweithrediad â’r sector preifat, mae Ysgol Y Deri wedi creu busnes sy’n ariannol gynaliadwy a sy’n darparu amgylchedd ddysgu alwedigaethol unigryw ac holistaidd i’w disgyblion. Yn ei dro, mae hyn wedi hybu eu hegni a’u ffydd yn eu gallu i weithio, ac wedi rhoi iddynt lefel uwch o sgiliau a chymwysterau nag oedd yr ysgol yn gallu cynnig iddynt o’r blaen. 

The Foundational Economy Challenge Fund supported innovative, experimental approaches to community wealth-building and resilient local economies.

Cefnogodd Cronfa Her Economi Sylfaenol dulliau arloesol ac arbrofol o adeiladu cyfoeth cymunedol ac economïau lleol cadarn.

related resources

Scroll to Top
Skip to content