Yn hyrwyddo gweithredu a fydd yn creu cymdeithas deg a chyfiawn, economi carbon isel ac amgylchedd naturiol ffyniannus.
Gan gadw’n nodau elusennol wrth wraidd y cyfan, ‘rydym yn cynnig aelodaeth, ac yn cyflenwi gwasanaethau hyfforddiant i’r cyhoedd, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Mae ein tîm bychan yn cyflenwi gwaith pellgyrhaeddol, sy’n cyffwrdd â llawer agenda, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio, teithio cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, tai fforddiadwy, yr Economi Sylfaenol, tlodi mewn gwaith, rheoli adnoddau naturiol a llawer mwy.
Dros y blynyddoedd, ‘rydym wedi gweithio gyda phobl a sefydliadau gwych ac, ar hyn o bryd, mae ein rolau a’n meysydd arbenigedd yn cynnwys y canlynol:
- Y Cyflog Byw Gwirioneddol – achredu a chefnogi
- Sefydliad Hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn cyflenwi hyfforddiant Llythrennedd Carbon i fudiadau
- Hyfforddiant eco-llythrennedd
- Strategaethau a chefnogaeth Rheoli’r Amgylchedd a Datgarboneiddio
- Creu ac hyrwyddo cymunedau ymarfer – gan gynnwys ym meysydd Datgarboneiddio Tai a’r Economi Sylfaenol yng Nghymru.
Mae pob prosiect ‘rydym yn ymwneud ag ef yn helpu ni i dyfu a deall mwy fyth am gynaliadwyedd – ac am bobl. ‘Rydym yn dwli ar ein gwaith.
Rydym yn gatalydd am newid
Rydym yn sionc ac yn egnïol
Rydym yn optimistaidd
Rydym yn ceisio gwneud gwelliannau parhaus
Rydym yn gydweithwyr ac yn weithredwyr
Mae gennym uchelgais i Gymru
Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes datblygu cynaliadwy.
Ein stori
Cafodd Cynnal Cymru ei sefydlu i fod yn gatalydd i wneud newid positif. A dyna, yn syml, ‘rydym am ei wneud.
Rydym wedi tyfu o syniad i fod yn sefydliad llwyddiannus, a luniwyd ar hyd yr amser gan lawer o gymeriadau gwych.
Cysylltwch â ni
Ebost: hello@cynnalcymru.com
Ffon: 029 2043 1746