Amdanon ni

Ni yw sefydliad datblygu cynaliadwy mwyaf blaenllaw Cymru – Yr ydym yn hyrwyddo gweithredu tuag at gymdeithas deg a chyfiawn, economi carbon isel ac amgylchedd naturiol ffyniannus.

Gan gadw’n nodau elusennol wrth wraidd y cyfan, ‘rydym yn cynnig aelodaeth, ac yn cyflenwi gwasanaethau hyfforddiant i’r cyhoedd, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

Ein cenhedaeth

‘Rydym yn credu y gall pob sefydliad gymryd camau i ymateb i heriau byd-eang mewn ffordd sydd yn fuddiol iddyn nhw, ac i’r bobl o’u cwmpas.

P’un ai bod hynny’n cynnwys talu’r Cyflog Byw Go-iawn fel bod gweithwyr yn gallu byw, yn hytrach na bodoli yn unig, ail-lunio arferion busnes er mwyn lleihau difrod amgylcheddol neu ymgysylltu â gweithwyr, cadwyni cyflenwi a chwsmeriaid i leihau allyriadau nwyon tŷ-gwydr – ‘rydym o’r farn bod codi uchelgais o fudd i sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt, nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Ein gweledigaeth

Mae gennym weledigaeth o fyd lle mae’r hinsawdd yn sefydlog,  o gymdeithas sy’n parchu ac amddiffyn adnoddau cyfyngedig y blaned a bod pob person yn cael ei barchu, ei werthfawrogi ac yn gallu cwrdd â’i anghenion.

Os yr ydych yn rhannu’r nodau hyn, byddwch yn deall bod hi’n anodd gwneud y newidiadau angenrhediol. Mae angen gwneud penderfyniadau mentrus a gweithredu ar frys. Dyna lle y gallwn ni helpu.

Pwy ydym ni

‘Rydym yn arbenigwyr cynaliadwyedd sy’n helpu sefydliadau i greu dyfodol tecach a mwy diogel. Ers 2002, ‘rydym wedi bod yn rhan o daith Cymru i ddod â meddwl byr-dymor i ben, a bod yn flaenllaw ym myd datblygu cynaliadwy.

Byth oddiar ein cychwyn fel rhwydwaith o aelodau, mae ein rôl wedi bod yn esblygu. Ar ôl chwarae rhan allweddol yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, deddf sy’n torri tir newydd, mae ein ffocws wedi symud at hyrwyddo gweithredu ymarferol tuag at wireddu’r nodau Llesiant a’r amcanion Datblygu Cynaliadwy.

Heddiw, ‘rydym yn fenter dielw ac yn elusen gofrestredig, yn darparu cyngor, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio.

Mae ein tîm bychan yn cyflenwi gwaith pellgyrhaeddol, sy’n cyffwrdd â llawer agenda, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio, teithio cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, tai fforddiadwy, yr Economi Sylfaenol, tlodi mewn gwaith, rheoli adnoddau naturiol a llawer mwy. 

Dros y blynyddoedd, ‘rydym wedi gweithio gyda phobl a sefydliadau gwych ac, ar hyn o bryd, mae ein rolau a’n meysydd arbenigedd yn cynnwys y canlynol:

  • Y Cyflog Byw Gwirioneddol – achredu a chefnogi
  • Sefydliad Hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn cyflenwi hyfforddiant Llythrennedd Carbon i fudiadau
  • Hyfforddiant eco-llythrennedd
  • Strategaethau a chefnogaeth Rheoli’r Amgylchedd a Datgarboneiddio
  • Creu ac hyrwyddo cymunedau ymarfer – gan gynnwys ym meysydd Datgarboneiddio Tai a’r Economi Sylfaenol yng Nghymru.

Mae pob prosiect ‘rydym yn ymwneud ag ef yn helpu ni i dyfu a deall mwy fyth am gynaliadwyedd – ac am bobl. ‘Rydym yn dwli ar ein gwaith.

‘Rydym yn gatalydd am newid

Rydym yn sionc ac yn egnïol

Rydym yn dîm bychan sy’n mwynhau ein gwaith; mae wastad gennym ddiddordeb mewn meysydd gwaith newydd sy’n berthnasol i’n pwrpas.

Rydym yn optimistaidd

Er gwaetha’r heriau difrifol ‘rydym am helpu eu datrys, ‘rydym yn cydweithio, yn feunyddiol, gyda phobl ysbrydoledig ac yn gweld newidiadau positif ar waith.

Rydym yn ceisio gwneud gwelliannau parhaus

Mae ein cleientod, ein haelodau a’n partneriaid yn disgwyl safon uchel gennym, ac ‘rydym yn dysgu ac yn myfyrio yn barhaus ynghylch yr hyn y gallwn wella.

Rydym yn gydweithwyr ac yn weithredwyr

Gan amrywio o gorfforaethau mawr hyd at grwpiau cymunedol, o awdurdodau lleol i fudiadau elusennol, mae datblygu cynaliadwy yn cynnig lle i bawb ac, os byddwn yn cydweithio, bydd yr effaith cymaint yn fwy.

Mae gennym uchelgais i Gymru

Rydym yn falch ein bod wedi’n lleoli yng Nghymru, ac o fod yn arweinyddion yn y broses o sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes datblygu cynaliadwy.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein sefydliad yn amrywiol ac, er mwyn hyrwyddo cynnwys cymunedau a grwpiau a eithriwyd cyn hyn, mewn trafodaethau ynghylch newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a gwaith teg.

Ein stori

Cafodd Cynnal Cymru ei sefydlu i fod yn gatalydd i wneud newid positif. A dyna, yn syml, ‘rydym am ei wneud.
‘Rydym wedi tyfu o syniad i fod yn sefydliad llwyddiannus, a luniwyd ar hyd yr amser gan lawer o gymeriadau gwych.

Cysylltwch â ni

E-bost: shwmae@cynnalcymru.com

ffôn: 029 2043 1746

Scroll to Top
Skip to content