Mae ein cymuned ffyniannus o aelodau yn cefnogi ei gilydd ac yn rhoi cyfle i rannu gwersi, herio syniadau, a gweithredu.
Mae rhwydwaith Cynnal Cymru yn gymuned o fudiadau rhagweithiol sy’n rhannu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd. Mae aelodau a phartneriaid yn canolbwyntio ar weithredu, maent yn arloesol, ac maent yn awyddus i ddysgu a chydweithio i ganfod atebion a ffyrdd newydd o wneud pethau er mwyn gwneud Cymru’n fwy cynaliadwy.
Wrth ymuno â Cynnal Cymru, mae ein haelodau’n gallu cael asesiad cynaliadwyedd am ddim, hyfforddiant ar weithredu a rhwydwaith amrywiol o bobl debyg iddyn nhw.
Os ydych chi wedi ymrwymo i ddyfodol cynaliadwy a bod gennych ddiddordeb mewn ymaelodi neu fod yn bartner i ni, byddem yn falch iawn o glywed gennych.