Adnodd Dysgu newydd ar-lein ar yr Economi Sylfaenol
Mae’n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod yn lansio modiwl e-Ddysgu newydd ar Adeiladu Cyfoeth Cymunedol a’r Economi Sylfaenol. Nod yr adnodd ar-lein deniadol hwn yw helpu pobl i ddeall beth yw’r Economi Sylfaenol; y manteision y gall eu cynnig; a sut mae mynd ati i’w chryfhau.
Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn esbonio:
“Mae’r modiwl e-Ddysgu ar-lein hwn yn offeryn ardderchog i ddeall dulliau gweithio ar sail lle yn well a sut mae Adeiladu Cyfoeth Cymunedol. Maen nhw’n gallu cefnogi a meithrin yr Economi Sylfaenol, sy’n ganolog i’n Cenhadaeth Economaidd. Rydyn ni i gyd yn rhyngweithio â’r Economi Sylfaenol bob dydd, o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, yr adeiladau rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw, a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu defnyddio. Mae’n rhan annatod o’n cymunedau a’n gwlad, ac yn gyfwerth â rhyw 40% o’r economi.
Mae’n hanfodol ein bod yn meithrin y galluoedd a’r sgiliau sydd eu hangen i ymgorffori amcanion Economi Sylfaenol ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru. Drwy wneud hyn, gallwn gynyddu’r cyfleoedd i’n cyflenwyr brodorol a datblygu cadwyni cyflenwi gwydn gyda’r sgiliau gorau – gan gadw’r bunt Gymreig yn ein cymunedau.
I wneud hyn, rydym yn cydnabod bod angen darparu’r cymorth a’r cyfryngau sydd eu hangen ar ein partneriaid yn y sector cyhoeddus.
Rwy’n falch o gael gweld lansio’r modiwl e-Ddysgu hwn a gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n helaeth i gryfhau dealltwriaeth, ymrwymiad a gwybodaeth i helpu ein sectorau sylfaenol i ffynnu.”
Cwestiynau Cyffredin
Pa mor hir mae’r modiwl e-Ddysgu hwn yn ei gymryd?
- Mae 8 rhan i’r cwrs hwn. Rydym yn argymell cwblhau’r modiwl mewn un eisteddiad, a fydd yn cymryd rhwng 30 a 45 munud.
Ar gyfer pwy mae’r modiwl?
- Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer pawb – pobl sydd â diddordeb yn y pwnc neu bobl sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Rydym yn ei argymell yn arbennig i’r rhai sy’n datblygu polisïau a phrosiectau economaidd, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio ym maes caffael yn y sector cyhoeddus. Mae’r cwrs byr wedi’i gynllunio i wneud i ddysgwyr deimlo’n fwy gwybodus, hyderus a brwd!
- Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol i ddilyn y modiwl hwn ac mae’n addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes.
Sut mae cael rhagor o wybodaeth?
- Mae dolenni ar gyfer darllen pellach ar ddiwedd y modiwl, sydd ar gael yn: https://learning.nhs.wales/course/view.php?id=1981