Yn ddiweddar, gwahoddwyd ein Rheolwr Hyfforddi, Rhodri Thomas, i gyflwyno sgwrs i Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Sifil. Fe wnaeth droi’r ddarlith, “A allwn ni beiriannu ein ffordd i ddyfodol cynaliadwy?”, a’i defnyddio i archwilio’r tensiynau rhwng beth sydd ei angen ar gymdeithas, beth mae’n meddwl y mae ei angen, cyfyngiadau amgylcheddol bodloni’r anghenion hyn, a sut mae’r diwydiant, gwyddoniaeth a thechnoleg yn ymateb. Tynnodd ar ei daith ddysgu ei hun, o fod yn fyfyriwr graddedig ac ymchwilydd mewn ecoleg systemau, i’w rôl bresennol yn helpu sefydliadau i wneud synnwyr o egwyddorion datblygu cynaliadwy yn eu cyd-destun penodol. Yn dilyn ei sgwrs, cynhaliwyd trafodaeth fyfyriol, lle wnaeth y gweithwyr peirianneg proffesiynol yn y gynulleidfa, atgofio’r ffordd y mae eu diwydiant wedi cymryd mantais ar gysyniadau ecolegol yn y degawdau diwethaf. Mae cwmnïau peirianneg sifil bellach yn amlddisgyblaethol, ac roedd gan nifer o aelodau’r gynulleidfa gefndir mewn gwyddorau bywyd. Er yr oedd pawb yn derbyn fod gan beirianwyr allu enfawr i ddyfeisio atebion cynaliadwy a defnyddio technoleg mewn cytgord â natur, y realiti yw, caiff cynllunio creadigrwydd ei rwystro’n bennaf gan ddeddfwriaeth a gorchmynion economaidd. Roedd pawb yn derbyn bod y diwydiant wedi newid, ac yn parhau i newid, ac, er gwaethaf yr heriau, mae’n cynnig rhai enghreifftiau ardderchog o gynaliadwyedd ymarferol. Nid oes lle i fod yn hunanfodlon fodd bynnag, a gall cwmnïau peirianneg sifil ddysgu oddi wrth gwmnïau corfforaethol mawr eraill, a dylent gymryd mantais ar y cyfleoedd rhwydweithio a gynigir gan y bartneriaeth newydd rhwng Cynnal Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil, a ymunodd yn ddiweddar â Cynnal Cymru fel aelod corfforaethol.
Mae Rhodri wedi’i addysgu i lefel Meistr mewn Rheoli Amgylcheddol ac mae wedi gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Fforwm ar gyfer y Dyfodol, ymhlith eraill. Mae ganddo Dystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddiant i Oedolion.
Mae Cynnal Cymru yn cynnig amrywiaeth i becynnau hyfforddi a phroffesiynol wedi’u teilwra, ar gyfer unigolion a sefydliadau. Os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod eich anghenion hyfforddi, cysylltwch â Rhodri Thomas, Rheolwr Hyfforddi, ar training@cynnalcymru.com