Cynnal Cymru | Sustain Wales

Rydyn ni’n eich helpu i droi nodau cynaliadwyedd yn gamau gweithredu.

Untitled design (23)

Rydyn ni’n gweithio tuag at gymdeithas sy’n:

Ni ydy prif elusen cynaliadwyedd Cymru.

Rydyn ni'n arbenigwyr ar gynaliadwyedd.

Gallwn ni eich helpu chi i gael canlyniadau — er enghraifft, os ydych chi eisiau diogelu eich busnes ar gyfer y dyfodol yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, helpu i amddiffyn ac adfywio byd natur, neu greu swyddi sy’n gwella bywydau a chymunedau. Gall ein tîm o arbenigwyr roi hyfforddiant, cyngor ac achrediad i chi, i droi eich nodau cynaliadwyedd yn gamau gweithredu.

Ers 2002, rydyn ni wedi bod yn arwain Cymru o ran cynaliadwyedd, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i ysbrydoli camau gweithredu a hwyluso newid ystyrlon.

Rydyn ni’n hwyluso newid.

Rydyn ni’n dod â phobl sy’n creu newid at ei gilydd ar draws sectorau, i ddychmygu ac ymgorffori’r newid cynaliadwy maen nhw eisiau ei weld.

Drwy ein rhaglen a’n digwyddiadau Aelodaeth, rydyn i’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio, i’ch helpu chi i feithrin partneriaethau newydd a dysgu gan arbenigwyr ar draws diwydiannau.

Rydyn ni'n creu economi decach.

Ni ydy’r corff achredu ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru. Gall ein tîm Economi Teg eich cefnogi chi i ennill achrediad y Cyflog Byw a’r Oriau Byw, a rhoi cyngor i chi ar arferion gwaith teg.

Rydyn ni’n credu mewn economi gynaliadwy a theg i bawb. Rydyn ni wrthi’n hwyluso Cymuned Ymarfer Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru.

Cyrsiau sydd i ddod

Cymerwch eich camau cyntaf

Ymaelodwch

Ymunwch â rhwydwaith cynyddol o arweinwyr cynaliadwyedd, a chysylltu â sefydliadau tebyg i chi.

Hyfforddwch

Cofrestrwch ar gyfer ein cyrsiau hyfforddi agored, neu drefnu cwrs wedi'i deilwra ar gyfer eich tîm cyfan.

Newidiwch bethau

Deall yn well pa effaith yr ydych yn ei chael ar yr hinsawdd a’r amgylchedd, gyda’n gwasanaethau cynghori.

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Mae ein cylchlythyr misol yn cynnwys crynodeb o’r holl newyddion am gynaliadwyedd, yn ogystal â gwybodaeth gan ein haelodau a’n rhwydweithiau ehangach.

Scroll to Top
Skip to content