21 Ionawr | Byw’r Dyfodol

Ymunwch â ni yn Aberystwyth ar gyfer digwyddiad meddwl am y dyfodol rhyngweithiol a chyfranogol i ddathlu 10 mlynedd o weithredu ysbrydoledig ers lansio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a dechrau 2026 gyda chymhelliant newydd i roi uchelgais ar waith yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.  

Byddwn yn arddangos prosiectau, sefydliadau a mentrau lleol cyffrous sy’n arwain y gwaith o ymgorffori 7 Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn arbrofi â meddwl am y dyfodol a dulliau creu gweledigaeth greadigol. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi’r lle inni ddychmygu gweledigaeth ysbrydoledig o’r dyfodol, gan adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd, a symbylu momentwm ac egni cyfunol o amgylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  

Mae’r digwyddiad hwn ar agor i bob sector a phob proffesiwn, o bob cwr o Gymru, a bydd o ddiddordeb arbennig i’r rhai sy’n ymwneud â gweithio tuag at ddyfodol cadarnhaol.  

Bydd yn gyfle i feithrin cysylltiadau a pherthnasoedd, ac i ddathlu a phwyso a mesur rhai o’r prosiectau a’r sefydliadau sy’n cyflawni newid ystyrlon sy’n seiliedig ar le.  

Gan adeiladu ar ddigwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd drwy gydol 2025, gan gynnwys Goleuo’r Dyfodol ac Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd y digwyddiad hwn yn taflu golau ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi’i seilio mewn cyd-destun lleol a rhanbarthol.  

Dydd Mercher 21 Ionawr, 10:00 – 15:30 (gyda chinio wedi’i gynnwys) 

Aberystwyth Bandstand, Aberystwyth, Marine Terrace, SY23 2BY

Mae’r siaradwyr yn cynnwys Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a phobl leol eraill sy’n creu newid – i’w gadarnhau. 

Digwyddiad cydweithredol yw hwn a drefnir ar y cyd gan Porthi Aber, Y Ganolfan Technoleg Amgen (CAT), Cynnal Cymru – Sustain Wales, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a Hwb Dyfodol. 

Scroll to Top