Yr Economi Sylfaenol ar Waith: Rhagoriaeth o ran Bwyd y Sector Cyhoeddus
Yr Economi Sylfaenol yw asgwrn cefn bywyd bob dydd yng Nghymru, gan ddarparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol i bawb. Mae’r rhain yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, bwyd, tai, ynni a chyfleustodau, adeiladu, manwerthwyr ar y stryd fawr, a thwristiaeth. Mae’r Economi Sylfaenol yn cael ei chefnogi gan amrywiaeth o fusnesau, ee busnesau bach a chanolig, cwmnïau mawr fel cyfleustodau wedi’u preifateiddio, cwmnïau symudol, ac archfarchnadoedd mawr. Amcangyfrifir bod yr Economi Sylfaenol yn darparu cyflogaeth i bedwar o bob deg o bobl yng Nghymru ac yn cyfrannu at £1 o bob £3 sy’n cael ei gwario yn y wlad.
Mae economi sylfaenol gref yn sicrhau bod anghenion dynol hanfodol ar gael i bawb, beth bynnag fo’u lleoliad, eu hincwm neu eu statws. Mae cefnogi’r economi sylfaenol yn un o brif flaenoriaethau cenhadaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau ac ailadeiladu’r Economi, sy’n ceisio creu cymunedau a busnesau llewyrchus ledled Cymru. Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi yn annog cydweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, hybu cynhwysiant, a sbarduno datblygiad economaidd, gan gefnogi penderfyniadau busnes. Gan adeiladu ar lwyddiant Cronfa Her Economi Sylfaenol 2021 Llywodraeth Cymru, nod y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol yw cefnogi busnesau lleol i ddarparu’r cynnyrch a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y sector cyhoeddus, gan greu gwell cyfleoedd gwaith yn nes at adref.
Mae “Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol” Llywodraeth Cymru wedi ariannu amryw o brosiectau yn y sector bwyd i gynyddu faint o fwyd o Gymru sy’n cael ei weini ar blatiau cyhoeddus. Nod y grant yw cefnogi cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol i ddarparu bwyd lleol, cynaliadwy ac iach i ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Drwy hyrwyddo dulliau o gynhyrchu a defnyddio bwyd lleol, gallwn ni gael llai o effaith ar yr amgylchedd ac annog arferion cynaliadwy yng Nghymru.
Mae Cynnal Cymru yn rhoi sylw i 3 o brosiectau’r sector cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar fwyd, pob un yn ceisio cryfhau Economi Sylfaenol Cymru. I ddysgu mwy, gweler isod.
Galluogi system fwyd sy’n barod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Efallai fod y cysylltiad rhwng bwyd iach a gwellhad cleifion yn ymddangos yn un amlwg, ond yn 2023 aeth staff Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (Felindre) ati i archwilio’r berthynas hon yn fanylach – ac i gael y manteision mwyaf y gall system fwyd iach eu cynnig i gleifion, staff ysbytai a’r tu hwnt. Mae Chris Moreton, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Felindre, yn esbonio mwy.
Yr Her:
Mae’r system fwyd bresennol yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau sy’n effeithio ar bawb. Mae’r rhain yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, colli natur, economi wledig sy’n dirywio, a diogelwch bwyd.
Ar hyn o bryd, mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am oddeutu 14% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, ac mae’r symudiad tuag at brosesau ffermio mwy dwys, er mwyn diwallu’r newid yn y deiet a’r galw gan ddefnyddwyr, yn gwneud y tir yn llai ffrwythlon, yn cyfrannu at effeithiau negyddol ar yr aer a’r dyfrffyrdd cyfagos ac mae’n un o’r prif ffactorau sy’n sbarduno colli bioamrywiaeth.
Mae blynyddoedd o ddwysáu mewn amaethyddiaeth wedi gadael cymunedau gwledig yn dlotach ac yn llai sefydlog, ac wedi cael effaith negyddol ar lesiant cymunedau ffermio. Hefyd, mae gorddibyniaeth ar system fwyd fyd-eang sy’n fwyfwy bregus wedi cyfrannu at gynnydd mewn prisiau bwyd, at dlodi bwyd ac at anghydraddoldeb.
Mae hyn yn ei dro yn cael sgil-effeithiau ar y GIG, ond mae Cymru hefyd yn gweld cynnydd mewn clefydau sy’n gysylltiedig â deiet, sy’n cael ei waethygu gan brinder cynnyrch fforddiadwy, hygyrch a ffres sy’n cael ei fwyta yn y cartref a’r gweithle. Mae’r clefydau hyn yn cynnwys diabetes Math II, canserau, clefydau cardiaidd a fasgwlaidd, strôc, a phroblemau gyda’r cymalau.
Y Cyfle:
Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario £97 miliwn ar fwyd ar gyfer ysgolion, ysbytai a gofal cymdeithasol, gyda chyllideb fwyd flynyddol Felindre yn unig yn werth tua £222 miliwn.
Mae Chris yn credu bod gan y GIG yng Nghymru gyfle i arwain y gwaith o hyrwyddo dulliau sy’n gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol o gael bwyd ar gyfer y sector cyhoeddus. Drwy gyflenwi bwyd lleol, o ansawdd da ac wedi’i gynhyrchu mewn modd cynaliadwy, gall wella iechyd a llesiant cleifion, staff a’u teuluoedd, yn ogystal â lleihau niwed ecolegol a helpu sector bwyd Cymru i fod yn decach ac yn fwy cydnerth.
Mae’r genhadaeth hon yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, menter ‘Prynu Bwyd Addas ar gyfer y Dyfodol’ Llywodraeth Cymru, dyletswydd Felindre i weithredu Caffael Cyhoeddus sy’n Gyfrifol yn Gymdeithasol, ac mae’n cyfrannu at yr uchelgais o gyrraedd Sero Net erbyn 2030.
Mae’r dyheadau hyn yn atgyfnerthu ei gilydd, ac maent wedi’u cynnwys yn amcanion y prosiect:
Drwy gael gafael ar fwy o fwyd iach a fforddiadwy gellir cael canlyniadau gwell i iechyd.
Bydd y gadwyn cyflenwi bwyd yn fyrrach, yn fwy cydnerth, a bydd yn cael cyn lleied o effaith amgylcheddol â phosibl ar yr un pryd â darparu gwerth am arian.
Bydd gan yr Ymddiriedolaeth fwy o fannau lle gall pobl ddysgu am fwyd a mwynhau bwyd.
Bydd llai o wastraff bwyd a bydd yr ôl troed ecolegol yn llai.
Bydd partneriaethau’n arwain at ddatblygu economïau a chymunedau bwyd lleol bywiog.
Nod Felindre yw gwneud bwyd yn flaenoriaeth llesiant i’w gleifion a’i staff drwy gynyddu mynediad at opsiynau bwyd iach am bris rhesymol yn y gwaith a’r tu hwnt. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno “Dydd Mercher Llesiant” a chynllun blwch llysiau – a fu’n llwyddiannus yn ystod y pandemig – i hyrwyddo arferion bwyta iach.
Caiff y gwaith o ailddylunio bwydlenni ei werthuso, gan ddechrau gyda’r bwyty yng Nghanolfan Ganser Felindre, i edrych ar gyfleoedd i integreiddio cynhwysion tymhorol ac organig, gan ddefnyddio dulliau fel llai o gig a defnyddio prosiectau heb frand i helpu i gynyddu cyllidebau.
Drwy weithio’n uniongyrchol gyda chyflenwyr, nod y prosiect yw sicrhau bod ffynonellau moesegol ac opsiynau masnach deg hefyd yn cael sylw pan nad oes cynnyrch o Gymru ar gael. Bydd sgiliau, hyfforddiant ac addysg yn elfen allweddol o’r prosiect o ran swyddi sy’n gysylltiedig â bwyd – ee cogyddion a chaffael – i ymgysylltu’n ehangach â’r staff er mwyn helpu’r staff i wneud penderfyniadau gwybodus am fwyd yn y gwaith ac yn eu bywydau’n ehangach.
Heblaw hynny, drwy ddarparu arweinyddiaeth amlwg drwy ei genhadaeth fwyd, mae Chris yn gobeithio y gall Felindre arwain drwy esiampl yn y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn helpu i sbarduno cydweithio a chysondeb rhanbarthol o ran cael gafael ar fwyd, annog cynhyrchu bwyd agroecolegol a chanfod cyfleoedd i arloesi.
Y camau nesaf:
Datblygwyd y prosiect gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu sectorau sylfaenol allweddol fel bwyd.
Mae nifer uchel o staff eisoes yn ymuno â’r prosiect, gyda gweithdai i’r staff yn dangos cefnogaeth unfrydol bron i’r genhadaeth fwyd. Mae hyn yn darparu adnodd allweddol ar gyfer negeseuon cyson am fanteision y newidiadau arfaethedig.
Fel yr eglura Chris, “Bydd negeseuon clir a chyson, a chydweithio â chyflenwyr, cynhyrchwyr a phartneriaid fel Uned Prosesu Canolog Cwm Taf Morgannwg, yn hanfodol i greu’r amodau sy’n galluogi pobl i ymrwymo i newid.”
Mae Cynllun Gweithredu wrthi’n cael ei ddatblygu i helpu i roi nodau’r prosiect ar waith a’u gwreiddio yng ngweithrediadau Felindre. Er bod rhai dangosyddion perfformiad yn bodoli a bod modd eu mesur yn hawdd, ee canrannau’r bwyd sy’n dod o gyflenwyr lleol, lleihau gwastraff bwyd, staff yn cael mynediad at flychau llysiau, a nifer y diwrnodau y mae cleifion yn ei gymryd i wella ar gyfartaledd, bydd angen datblygu rhai eraill, gan gynnwys Mesur Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion ar gyfer bwyd, a’r Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ar gyfer yr economi fwyd leol.
Mae Chris yn credu bod y dull system gyfan hwn yn angenrheidiol i fynd i’r afael â’r heriau yn y system fwyd bresennol ac i ddangos yr holl amrywiaeth o fanteision y gellir eu darparu drwy ofal iechyd sy’n seiliedig ar werthoedd. Edrychwn ymlaen at roi mwy o wybodaeth wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.
Well Fed – MealLockers / Rhaglen Ddi-blastig a Sero Net
“Mae pob un ohonom eisiau cael system fwyd sy’n dymuno rhoi bwyd da i blant a phobl. Mae bwyd sydd heb gael ei brosesu’n helaeth yn ymwneud ag iechyd pobl. Rydym yn cyfateb i’r pris ac yn gwella’r ansawdd.” – Robbie Davison, Cyfarwyddwr Can Cook.
Mae’r fenter gymdeithasol Can Cook yn mynd i’r afael â thlodi bwyd ac arferion bwyta sydd ddim yn iach yng Nghymru drwy ddarparu prydau ffres, maethlon, wedi’u coginio o’r dechrau, am brisiau fforddiadwy. Mae eu rhaglen “Well Fed” yn cynnwys mentrau fel blychau bwyd Coginio yn y Cartref, siopau symudol, a Phryd ar Glud.
Gyda chefnogaeth gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, maent wedi canolbwyntio’n ddiweddar ar ddatblygu a gwella tair agwedd newydd ar gyflenwi, sef peiriannau gwerthu di-blastig (eatTAINABLE), ‘MealLockers’ a rhaglen lleihau allyriadau Sero Net sy’n integreiddio ynni solar.
Yr Her
Un o brif heriau iechyd cyhoeddus Cymru yw tlodi bwyd a chyfraddau gordewdra cynyddol ymhlith plant. Bydd 1 o bob 4 plentyn a aned yn 2022 yn ordew erbyn 5 oed yng Nghymru, ac ni all dros 50% o boblogaeth y DU fforddio basged o gynnyrch ffres. Mae bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth (UPF) yn gyffredin yn y fasged wythnosol arferol ac maent hefyd yn amlwg iawn mewn prydau ysgol.
Mae Robbie yn egluro bod y prosiect wedi digwydd ar ôl canfod bod y rhan fwyaf o’r bwyd sy’n cael ei fwyta gan blant yn yr ysgol wedi cael ei brosesu’n helaeth, er ei fod yn bodloni safonau maeth. “Os yw bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth yn helpu ysgolion i gyrraedd safonau maeth, rydym yn y lle anghywir” meddai. “Bwydo plant yn dda sydd bwysicaf i ni. Rydym yn edrych ar bopeth yn y gadwyn gyflenwi i gael gwared ar UPFs, ac i ddechrau y prif mater yn y byd coginio ar raddfa fawr yw’r stociau, y grefis a’r sawsiau.”
Ar ôl canfod y prif gynhwysyn i’w newid yn eu prydau bwyd – sef stoc – aeth tîm Can Cook ati i ddatblygu dewis oedd heb gael ei brosesu’n helaeth. Yr ateb yw stoc wedi’i wneud o fadarch, o fferm leol, y gellir ei goginio ar raddfa fawr, sy’n aros o fewn y gyllideb, ac sydd â’r un blas a nodweddion â dewisiadau masnachol eraill.
Dangosodd hyn i’r tîm ei bod yn bosibl dileu cynhwysion UPF. Mae’r holl brydau a ddarperir gan Can Cook bellach yn rhydd o fwydydd wedi’u prosesu’n helaeth, ac mae’r prosiect yn helpu pobl eraill i osgoi’r rhain yn eu deiet ehangach drwy ddysgu pobl sut i goginio o’r dechrau.
Her arall i dîm Can Cook yw nad yw cymunedau ynysig yn aml yn gallu cael gafael ar fwyd ffres a maethlon. Gall dulliau arlwyo traddodiadol fod yn anymarferol i’r ardaloedd hyn.
Mae ateb Can Cook yn cynnwys menter i ddosbarthu prydau ffres, iach wedi’u paratoi ymlaen llaw i gymunedau ynysig drwy MealLockers mewn mannau cyhoeddus. Maent hefyd yn datblygu dull gwerthu di-blastig sy’n dosbarthu prydau mewn cynwysyddion dur gwrthstaen i’w rhoi yn y popty meicrodon ac y gellir eu dychwelyd wedyn – sef dull sy’n targedu mannau gwaith ac yn gyfleus a hygyrch i gwsmeriaid, ac sydd ar yr un pryd yn lleihau gwastraff ac ynni wrth ailgynhesu.
Er mwyn helpu i leihau eu hôl troed carbon eu hunain, mae Can Cook yn symud eu cegin gynhyrchu tuag at Sero Net drwy osod paneli solar erbyn mis Mehefin 2024 i ddibynnu 60% yn llai ar drydan anadnewyddadwy.
Tua’r dyfodol:
Mae Robbie yn nodi bod angen ymdrechion parhaus i ddod o hyd i gyflenwyr dibynadwy o gynhwysion di-UPH er mwyn gallu cynhyrchu ar raddfa fawr.Mae hefyd yn credu bod gan fodel MealLockers botensial enfawr i ehangu i ddarparu prydau iach yn effeithlon i fwy o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, ysbytai ac ardaloedd gwledig, a gallai dulliau comisiynu’r sector cyhoeddus eu cefnogi. Mae’n egluro:
“I wneud lles gwirioneddol i iechyd y cyhoedd, mae’n hanfodol bod dulliau comisiynu’r sector cyhoeddus yn symud tuag at hybu a gwarchod ansawdd a gwerth cymdeithasol. Credwn fod angen model bwyd cymdeithasol ar gyfer contractau’r sector cyhoeddus nawr, er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu bwyta’n dda, beth bynnag fo’u hincwm.”
Mae tîm Can Cook yn credu bod potensial enfawr i fentrau fel y rhain wneud cyfraniad sylweddol at iechyd y cyhoedd yng Nghymru a’r tu hwnt. Rydym ni yn Cynnal Cymru yn edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y gwaith hwn.
Sut gall y gadwyn gyflenwi gydweithio i sbarduno newid sy’n gadael gwaddol cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
Fel cwmni bwyd cynhenid o Gymru, mae Castell Howell wrth galon yr economi sylfaenol hon.
Mae’n gwasanaethu darparwyr gwasanaethau lletygarwch a bwyd y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru a’r tu hwnt, ac mae’n cydnabod ei gyfrifoldeb i fod yn gyfrwng i newid pethau, gan weithio tuag at nodau’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
‘I wneud y gorau o system fwyd Cymru mae angen canolbwyntio ar hyrwyddo dulliau cynhyrchu yn nes at gartref er mwyn cael mwy o werth cymdeithasol a chynnwys maethol. Mae hyn yn golygu cysoni bwydlenni â chynaeafu tymhorol, gwella data am y cynnyrch a chadwyni cyflenwi, ac ymestyn oes silff cynnyrch. Bydd ymdrechion cydweithredol yn meithrin system fwy gwydn sy’n grymuso ein ffermwyr, yn darparu prydau maethlon i’r sector cyhoeddus, ac yn lleihau risg. Er bod heriau o ran cost ac effeithlonrwydd, gall dull pragmataidd sy’n canolbwyntio ar amcanion hirdymor arwain at fanteision sylweddol. Rhaid cael arferion caffael tryloyw sy’n blaenoriaethu nid yn unig y pwynt pris, ond hefyd gwerth cymdeithasol, effaith amgylcheddol, ac ymgysylltu â’r gymuned.’ – Edward Morgan – Rheolwr Hyfforddiant a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol y Grŵp, Bwydydd Castell Howell
Mae’r astudiaeth achos hon yn tynnu sylw at bedwar prosiect annibynnol ond cysylltiedig sy’n dangos sut gall y gadwyn gyflenwi gydweithio i sbarduno newid sy’n gadael gwaddol cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn yr economi sylfaenol a’r tu hwnt.
1. Llysiau sy’n cael eu Tyfu’n Lleol i Fwyd a Hwyl Caerdydd – ‘Y Peilot Courgettes’
Yn ystod haf 2022, bu Castell Howell yn cydweithio â thyfwyr Blas Gwent, Synnwyr Bwyd Cymru a Chyngor Caerdydd i ddarparu llysiau lleol i raglen Bwyd a Hwyl yr Haf a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan CLlLC.
Cafodd courgettes a dyfwyd ger Caerdydd eu danfon i 22 o ysgolion lleol, a bu’r cogydd datblygu yn Castell Howell yn gweithio gyda thîm maeth y Cyngor i greu prydau a oedd yn gytbwys o ran maeth, yn flasus ac yn ddeniadol i’r plant. Roedd rhaglen yr haf yn cynnwys gweithgareddau fel arddangosiadau coginio a chelf llysiau.
Cyhoeddwyd adroddiad gan Synnwyr Bwyd Cymru, yn tynnu sylw at ba mor effeithiol fu’r cynllun peilot a sut mae cynnwys llysiau lleol mewn prydau ysgol yn gallu lleihau effeithiau amgylcheddol a bod o fudd i’r tyfwr ac i’r plant fel ei gilydd.
Cafodd Cam 2 ei ymestyn y tu hwnt i Gyngor Caerdydd, sef i Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin, ac roedd yn cynnwys tri chwmni sy’n tyfu llysiau ar raddfa fach: Blas Gwent (Gwynllŵg), Langtons Farm (Crucywel), a Bonvilston Edge (Tresimwn). Defnyddiwyd eu llysiau ar gyfer prosiect Bwyd a Hwyl yr Haf gan y tri awdurdod lleol, gyda phrosiect tymor hir yn Sir Fynwy yn ymestyn i’w bwydlenni ar gyfer yr hydref a’r gaeaf. Er mwyn gofalu am ddiogelwch bwyd, darparwyd hyfforddiant ar ddiogelwch a phrosesau gan Tyfu Cymru/Cyswllt Ffermio.
Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
Roedd rhaid cysoni’r holl ragolygon, bwydlenni a chynaeafu, a chaniatáu hyblygrwydd ar gyfer amrywiadau tymhorol. Cafodd Authentic Foods (Hirwaun) gontract i dyfu llysiau i’w cynaeafu, eu paratoi, ac, ar ôl rhaglen o waith datblygu cynnyrch newydd, cawsant eu cynnwys mewn prydau aml-ddogn wedi’u paratoi yn y gegin i’r sector cyhoeddus. Er mwyn i’r prosiect lwyddo, roedd rhaid cael sgyrsiau gyda thimau arlwyo awdurdodau lleol ar faterion cydymffurfio maeth, pa mor dderbyniol, pa mor flasus, beth yw eu pris ac pha mor ymarferol yw defnyddio ceginau ysgol, ac ym mis Mai 2023 cyfarfu’r partneriaid yn Fferm Langtons, lle ymrwymwyd i blannu 1,000 o flodfresych i’w cynaeafu ddechrau 2024, i’w defnyddio mewn prydau aml-ddogn sy’n addas i ysgolion o fis Mawrth 2024 ymlaen.
O ddiddordeb arbennig roedd canlyniadau labordy ar y microfaethynnau ar gyfer y prydau a ddatblygwyd yn Authentic. Ac eithrio’r saws Pizza Tomatos Cymreig safonol, mae’r canlyniadau’n ymddangos yn unol â’r disgwyliadau. Arbennig o dda oedd weld y sbigoglys ac ysgallddail a dyfir yng Nghymru yn cael eu hychwanegu, gan roi hwb i faint o haearn a sinc sydd yn y pryd Blodfresych a Chaws. Nid yw’n glir beth fyddai maint y ddogn y byddai plentyn ysgol gynradd yn ei fwyta, ond y gobaith yw y byddai’r 20% a ychwanegir yn fwy na’r 3g o ficrofaethynnau sy’n waelodlin gyffredinol.
Mae Bolognaise Cig Eidion Cymru (gyda’r sail sbigoglys/ysgallddail ychwanegol) i’w weld yn perfformio’n dda hefyd.
Ar yr amod bod y plant yn fodlon gyda phryd o flodfresych â chaws sydd ag 20% yn ychwanegol (ddim yn edrych yn rhy wyrdd ac ati), gallai hyn fod yn newyddion gwych i’n carfan o dyfwyr, gan ein helpu i leihau’r hyn y gellir ei dyfu’n dda a phroffidiol yng Nghymru ar gyfer cwsmer targed h.y. ysgolion.
Topin Pizza Tomatos Cymreig
Gyda 10% o sbigoglys
Gyda 20% o sbigoglys
Gyda 10% o ysgall-ddail
Saws Tomato a Basil Knorr
Maggi (Nestle) Rich & Rustic
Tun Tomatos wedi’u torri/Tomatos Eirin
Cig Eidion Cymreig a Bolognese Cymreig
Blodfresych â Chaws Cymreig
Gyda 10% o ddail cymysg
Gyda 20% o ddail cymysg
Gyda 10% o sbigog-lys
Egni
KJ/100g
168
155
161
150
213
257
80
354
359
337
329
337
Protein
g/100g
1.8
1.8
2.1
1.8
1.2
1.4
1.1
5.5
3.4
3.5
3.5
3.4
Braster
g/100g
0.3
0.2
0.3
0.3
1.1
2.8
0.1
4.6
5.3
4.9
4.5
4.8
Siwgrau
g/100g
5.2
4.5
4.4
4
6.9
5.7
3.8
2.7
2.7
2.4
2.3
2.3
Ffeibr
g/100g
2.6
2.5
2.4
2.7
0.7
1.1
0.8
2.8
1.6
2
2.33
1.7
Sodiwm
mg/100g
204
202
183
169
Amh.
Amh.
Amh.
292
220
213
231
198
Sinc
mg/100g
<2.00
2.23
3.37
3.78
Amh.
Amh.
Amh.
11.6
5.56
8.65
11.3
5.62
Haearn
mg/100g
7.17
5.41
6.22
6.13
Amh.
Amh.
Amh.
7.84
1.81
3.54
5.53
2.74
Llysiau wedi’u tyfu ym Mhenrhyn Gŵyr, O’r Pridd i’r Plât
Ar y cyd ag Awdurdod Lleol Abertawe, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt a 4theregion, datblygodd Castell Howell gadwyn gyflenwi leol beilot ar gyfer llysiau a dyfir ym Mhenrhyn Gŵyr i ymddangos ar y fwydlen yn ysgol Llandeilo Ferwallt. Cynhaliodd yr ysgol bythefnos o weithgareddau bwyd mewn gwersi, ymwelodd yr ysgol â’r tyfwyr, a helpu i ddatblygu prydau bwyd i ymddangos ar fwydlen ysgol gyda ‘Llysiau wedi’u tyfu ym Mhenrhyn Gŵyr’.
Helpodd y prosiect hwn i godi ymwybyddiaeth o faeth, yr effaith ar yr amgylchedd, tegwch ariannol ar draws y gadwyn gyflenwi a gwytnwch bwyd lleol.
3. Cadwyni cyflenwi cynaliadwy, a ‘Chwmpas 3’ ar fwydlenni
Mae cyswllt anorfod rhwng milltiroedd bwyd ac allyriadau cadwyn gyflenwi Cwmpas 3. Drwy weithio gyda darparwyr lletygarwch i benderfynu ar opsiynau bwydlenni, ac yna gyda chyflenwyr, gellir lleihau cyfanswm yr effaith y mae cynnyrch yn ei chael ar yr amgylchedd.
Dangoswyd enghraifft o’r economi gylchol ar waith drwy’r cydweithio sy’n digwydd rhwng Celtic Pride, cyflenwr cig eidion Cymreig premiwm Castell Howell sy’n cael ei redeg gan deulu Rees o Fferm Bryn, ym Mhendeulwyn, Bro Morgannwg, ac NFU Energy. Cafodd Fferm Bryn fiosolidau gan Dŵr Cymru, sef sgil-gynnyrch sy’n ffynhonnell doreithiog o faethynnau ac sydd wedi galluogi’r fferm i leihau’r angen am wrteithiau synthetig, sef un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r sector amaethyddol.
Cyfleu’r Manteision Cadarnhaol i Randdeiliaid
Mae Castell Howell yn defnyddio negeseuon cadarnhaol ar fwydlenni, ynghyd â rhagor o wybodaeth y gellir cael gafael arni drwy godau QR, i ddweud wrth randdeiliaid beth yw’r manteision amgylcheddol a chymdeithasol a ddaw drwy gael cadwyn gyflenwi gynaliadwy.
Bwydlen o Darddiad Cynaliadwy ar gyfer Cynhadledd Ffermio
Ar y cyd ag Arlwyo Caerdydd, datblygodd Castell Howell fwydlen o ffynonellau cynaliadwy ar gyfer gwledd Cynhadledd Nuffield 2022. Mabwysiadwyd amrywiaeth o amcanion amgylcheddol gan y cyflenwyr allweddol, gan gynnwys Archwiliad Carbon Fferm gyda’r ffermwr cig eidion, tatws sero net, llysiau wedi’u tyfu ym Mhenrhyn Gŵyr a chaws o ffermydd atgynhyrchiol. Mae’r ffilm hon yn dangos sut cafodd y fwydlen ei chreu gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddi, ac mae’n dangos taith cynaliadwyedd y cynhyrchwyr bwyd, yn ogystal â thynnu sylw at sut cafodd hyn ei gyfleu i’r rhai sy’n bwyta’r bwyd.
4. Prosiect Treuliadwyedd a Dwysedd Maethynnau
Mae mwy a mwy yn derbyn y ffaith fod bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth yn achosi risgiau i iechyd. Bu Castell Howell yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect a arianwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu prydau parod ar gyfer GIG Cymru sy’n dangos nad oes angen i nodau maeth, amgylcheddol, cymdeithasol a masnachol fod ar wahân.
Cafwyd y canlyniadau gydag amrywiaeth o brydau aml-ddogn yn dilyn gwaith datblygu cynnyrch newydd ac arloesol, a oedd yn cynnwys mesur gwir ansawdd maethol y prydau newydd, drwy ddadansoddi cyfansoddiad asidau amino a sgoriau treulio protein gastroberfeddol in-vitro. Llwyddwyd i roi protein yn deillio o godlysiau a dyfwyd yn y DU yn lle cig coch, gan sicrhau bod y prydau’n dal i fodloni’r safonau maeth gofynnol.
Canfu’r prosiect mai’r rhai mwyaf ymarferol o ran bodloni’r gofynion oedd amrywiaeth o brydau hyblyg neu “hybrid”, yn seiliedig ar brydau sydd wedi’u hen sefydlu ac sy’n cael eu cydnabod ond sy’n cynnwys protein o blanhigion yn lle cig os oes modd. Pan ddefnyddiwyd cig, cig eidion Cymreig wedi’i bori ar borfa oedd hwn yn bennaf, ac roedd hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth ‘Ffordd Gymreig’ Hybu Cig Cymru o brotein is o ran carbon sy’n dod o dda byw Cymru. Fodd bynnag, roedd y cynnydd ym mhris cig ers dechrau’r prosiect yn tanlinellu’r agweddau masnachol pwysig ar fwydydd “hybrid” sy’n cynnwys elfen o gig Cymru ochr yn ochr â chodlysiau a dyfir yn y DU.
——————————————————————————————————
Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd y prosiectau yma, o ran datblygu’r gadwyn gyflenwi, datblygu cynnyrch a darparu mwy o gynnyrch Cymreig i ysgolion Cymru. – Edward Morgan, Rheolwr Hyfforddiant a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol y Grŵp, Bwydydd Castell Howell
Rydym ni yn Cynnal Cymru yn edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y gwaith hwn.