Gwobrau Elusennau Cymru 2022 – DERBYN ENWEBIADAU NAWR

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl o’r diwedd! Mae’r gwobrau, a drefnir gan CGGC, yn ddathliad o’r gwaith hanfodol mae mudiadau gwirfoddol yn ei wneud yng Nghymru.

Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers y gwobrau cyntaf, ac yn yr amser hwnnw, mae’r sector gwirfoddol wedi dod yn fwy hanfodol fyth. Yng ngŵydd argyfyngau lluosog sydd wedi effeithio ar ein cymdeithas, mae elusennau a gwirfoddolwyr wedi cyd-dynnu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar hyd a lled Cymru. 

O gymunedau yn trefnu i ddiogelu eu pobl fwyaf agored i niwed drwy lifogydd a chyfnodau clo, i fudiadau a newidodd eu gwasanaethau i fwydo eu cymunedau yn ystod y pandemig, mae ein sector gwirfoddol wedi profi dro ar ôl tro ei fod yn rym hanfodol ar gyfer datblygu a newid yng Nghymru.

Ni allai’r amseru fod yn well, yn ein tyb ni, i Wobrau Elusennau Cymru ddychwelyd a sicrhau bod y bobl a’r mudiadau ysbrydoledig hyn yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n eu haeddu.

A oes elusen, menter gymdeithasol neu wirfoddolwr wedi gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi felly yn ystod y blynyddoedd diwethaf? 

Efallai eich bod wedi gweithio gyda mudiad sydd wedi gosod esiampl go iawn o arfer da ar gyfer y sector ehangach? 

Efallai bod un o’ch gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i’ch helpu chi a’ch achos?

Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n eu haeddu – enwebwch nhw am Wobr Elusennau Cymru. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 20 Medi 2022. I gael rhagor o wybodaeth a sut i enwebu, ewch i www.gwobrauelusennau.cymru

Gwobrau Elusennau Cymru 2022 – DERBYN ENWEBIADAU NAWR Read More »