Practice Solutions: Fordd holistaidd o adeiladu gwytnwch cymunedol yn Rhondda Cynon Taf
Mae Practice Solutions yn sefydliad hyfforddi ac ymgynghori, yn darparu cefnogaeth hyblyg parod i gwmnïoedd yn y sectorau gofal cymdeithasol, iechyd, gwirfoddol a phreifat. Ei nod yw helpu sefydliadau i feithrin llesiant yn eu gweithluoedd a chymunedau drwy weithredu newid ystyrlon a chynaliadwy.
Wedi gweithio gyda llawer o fusnesau gofal cymdeithasol ers 1999, roedd Practice Solutions yn cydnabod bod darparwyr llai o faint yn aml yn cael trafferth delio â materion ‘swyddfa gefn’, gan gynnwys cyllid, Adnoddau Dynol, marchnata neu dendro. Yn ei dro, roedd hyn yn cwtogi ar eu gallu i ennill y contractau mwy o faint roedd angen arnynt er mwyn iddynt dyfu.
Roedd hyn wedi arwain at y syniad o rwydwaith gefnogi leol ar gyfer y busnesau hyn, a allai gynyddu eu capasiti i ddarparu gwasanaethau, ac ennill cytundebau ar raddfa fwy, drwy ddarparu gwasanaethau ‘swyddfa gefn’ ar y cyd, yn ogystal â chyngor, cefnogaeth a broceru perthynas, yn enwedig gyda’r sector cyhoeddus.
Teimlwyd bod hyn o bwys mawr i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gyda BBaCh a busnesau meicro eisoes o dan bwysau cynyddol ac ymgyrch cenedlaethol i recriwtio 20,000 o ofalwyr ychwanegol yng Nghymru erbyn 2030.
Os yn llwyddiannus, yna byddai modd cyflwyno’r model i’r holl fusnesau sylfaenol sy’n cefnogi’r darparwyr gwasanaeth hyn, ynghyd â darparwyr gwasanaeth eraill.
Yn 2019, roedd tîm Practice Solutions wedi derbyn grant y Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i brofi awydd busnesau Rhondda Cynon Taf am fodel o’r fath.
Gan ganolbwyntio ar y cychwyn ar ddarparwyr gofal cymdeithasol, roedd y prosiect Connect4SuccessRCT yn anelu at gyflwyno dull cysawd-eang i sicrhau bod modd diwallu anghenion gofal cynyddol yn y dyfodol drwy hybu’r sector gofal lleol, a’r economi sylfaenol ehangach.
Byddai’r prosiect yn cynnig cefnogaeth ‘swyddfa gefn’ i FBaCh lleol y sector gofal, gan gynnwys recriwtio staff a chyngor ynghylch eu cadw, hyfforddiant i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl agored i niwed, help gyda materion cyllid a marchnata a chyngor ynghylch tendro.
Byddai hefyd yn gweithio i gysylltu cwmnïau lleol gyda chyrff cyhoeddus er mwyn ceisio sicrhau bod mwy o gontractau cyhoeddus yn cael eu dyfarnu yn lleol, yn hytrach nag yn mynd i ddarparwyr corfforaethol mawr. Byddai hyn yn cynnwys chwalu’r rhwystrau i dendro llwyddiannus a chodi proffil darparwyr lleol i gynulleidfaoedd y sector cyhoeddus.
Er ei fod wedi dechrau yn dda, gydag allgymorth llwyddiannus gyda phawb, roedd hi’n anochel bod effaith Covid-19 wedi cyfyngu ar allu darparwyr gofal cymdeithasol a chyrff cyhoeddus i ymgysylltu â’r prosiect.
Mewn ymateb, roedd y prosiect wedi cynyddu ei ffocws ar fusnesau eraill yr economi sylfaenol sydd, drwy gyfrannu at wytnwch cymunedol lleol, hefyd yn cefnogi agendáu iechyd a gofal cymdeithasol, a’r gymuned yn gyffredinol.
Arf allweddol oedd gwefan Connect4SuccessRCT, sy’n anelu at alluogi darparwyr lleol i farchnata eu gwasanaethau, ac hefyd i roi cyfle iddynt gydweithio, er mwyn ennill a cyflenwi contractau sector cyhoeddus raddfa-fawr a fyddai, fel arall, y tu hwnt i’w cyrraedd.
Hyd yn hyn mae 54 sefydliad lleol wedi cofrestru, gan gynnwys gorsaf radio, sefydliadau hyfforddiant, adeiladwyr, gweithgynhyrchwyr a dosbarthwyr Cyfarpar Diogelu Personol.
Er bod y pandemig wedi newid prif gynulleidfa’r prosiect, nid yw Connect4SuccessRCT wedi colli golwg o’i nodau gwreiddiol, sef cefnogi’r sectorau iechyd a gofal, neu chwaith ei ymagwedd holistaidd.
Fel mae Dafydd Thomas, arweinydd prosiect Practice Solutions, yn esbonio:
“Mae’r model yn gweithio ar sail darparu cyd-fuddion i bawb. Pan y maen nhw’n ymuno â Connect4SuccessRCT, mae busnesau nid yn unig yn derbyn cyngor ynghylch tendro, marchnata, a chyngor busnes arall, ond hefyd byddwn yn darparu hyfforddiant fel bod eu cyflogai yn gallu adnabod pan fydd rhywun yn agored i niwed, neu’n wynebu risg. Bydd hyn yn ychwanegu at effaith cymdeithasol y busnes ac, yn y pen draw, yn helpu’r gwasanaethau cyhoeddus i ymyrryd cyn bod problemau yn troi’n ddwysach, ac yn fwy costus”
Gall y ‘system rhybudd cynnar’ ychwanegol sydd gan gwmnïau lleol, oherwydd eu bod yn cysylltu’n ddyddiol gyda niferoedd uchel o breswylwyr y sir, nid yn unig helpu lleihau’r angen am roi pobl mewn ysbyty am reswm amrhiodol, a lleihau dioddefaint, ond hefyd olygu bod modd rhannu a thyfu cyfrifoldeb gofal drwy’r gymuned gyfan.
Mae Practice Solutions hefyd yn dal i weithio i bontio’r bwlch rhwng y sector cyhoeddus a darparwyr gwasanaeth er mwyn galluogi mwy o gydweithredu, a sicrhau bod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei sianeli drwy’r economi leol.
Mae’r staff wedi bod yn ymgysylltu â swyddogion caffael ac awdurdodau lleol i geisio deall yr hyn sydd ei angen ar fusnesau i’w galluogi i fod yn llwyddiannus wrth ennill contractau. Mae hyn yn cynnwys diweddaru polisïau, cynlluniau ardystio a gwybodaeth am y gwaith sydd ar y gorwel, a’r cyfan yn golygu bod busnesau yn fwy parod i fynd allan i chwilio am gontractau hyd yn oed pan fod peilot cychwynnol Connect4Success yn dod i ben ym Mawrth 2021.
Mae’r gwaith hwn hefyd wedi rhoi cipolwg gwerthfawr o’r broses o wneud tendro yn fwy hygyrch, yn enwedig o ran y rhai hynny sydd yn llai profiadol, neu’n llai deallus pan yn trafod materion digidol.
Mae Practice Solutions hefyd wedi gallu rhoi adborth ynghylch y profiad hwn i GwerthwchiGymru, Cyngor Bwrfeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill, i’w helpu i ddeall y rhwystrau yn mae darparwyr lleol yn eu wynebu.
Roedd Dafydd Thomas wedi mynd ymlaen i ddweud
“Un o’r pethau y mae’r pandemig wedi’n dysgu ni yw bod gwasanaethau lleol ond cystal a’u cadwyni cyflenwi – ystyriwch yr heriau gwahanol o ran cyflenwi Cyfarpar Diogelwch Personol. ‘Rydym am weld mwy o fusnesau lleol yn cyflenwi mwy o wasanaethau ar ran y sector cyhoeddus lleol – gan ddarparu mwy o swyddi lleol i bobl yn agosach i’w cartrefi, a sicrhau bod mwy o arian cyhoeddus yn dal i gylchredeg yn lleol”.
Mae’r tîm hefyd wrthi’n creu cyfeiriadur i restru holl fusnesau Rhondda Cynon Taf a fydd, ymhen amser, yn helpu timau caffael y sector cyhoeddus i chwilio am setiausgiliau penodol a chysylltu â busnesau sy’n cwrdd â gofynion contract.
Er bod Practice Solutions o’r farn bod y peilot wedi bod yn llwyddiannus, nid yw wedi bod heb ei heriau. Yn ystod misoedd brig y pandemig roedd hi’n anodd creu cysylltiadau gyda phartneriaid ac, mewn un achos, roedd wedi cymryd dros 9 mis i drefnu cyfarfod gydag un o’r cyrff cyhoeddus targed. Fel yr esboniodd Dafydd “yn syml iawn, nid oedd modd i’n partneriaid ymgysylltu â ni” er gwaethaf yr adnodd ychwanegol y mae prosiectau fel Connect4SuccessRCT yn cynnig.
Yn yr un modd, mae pwysau economaidd yn golygu nad oedd agwedd holistaidd hirdymor y prosiect yn apelio at rai o’r BBaCh a busnesau meicro, gan fod llawer mwy o ddiddordeb gyda busnesau mewn “helpwch fi i gael gafael ar rywbeth nawr”, yn hytrach na’r hyn a fydd, efallai, ar gael yn y “dyfodol euraidd”.
Er gwaetha’r heriau hyn, mae’r prosiect wedi profi’n hyblyg, ac wedi ymateb i anghenion lleol. Yn yr hirdymor hoffai’r sefydliad addasu’r model hwn a’i droi’n fudiad cydweithredol gydag aelodaeth ffurfiol, a gwahodd y gymuned i chwarae ei rhan. Yn ychwanegol at y nodau gwreiddiol o gydweithio yn agosach gyda’r sector cyhoeddus, byddai hefyd yn yn cysylltu pobl lleol gyda busnesau dibynadwy lleol ym meysydd cynnal a chadw eiddo, trafnidiaeth neu wasanaethau cynnal cyffredinol.
Yn ogystal â hybu’r economi leol, credir y byddai hyn, yn arbennig, yn helpu’r pobl mwyaf agored i niwed yn y gymuned i fyw yn annibynnol yn hirach, yn gwella llesiant unigol ac yn lleihau ymhellach y pwysau ar y darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol lleol.
Practice Solutions: Fordd holistaidd o adeiladu gwytnwch cymunedol yn Rhondda Cynon Taf Read More »